Robert Arthur Griffith (Elphin)

awdur a chyfreithiwr

Bardd Cymraeg oedd Robert Arthur Griffith (1860 - 26 Rhagfyr 1936), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Elphin". Roedd yn fab i John Owen Griffith (Ioan Arfon).

Robert Arthur Griffith
FfugenwElphin Edit this on Wikidata
Ganwyd1860 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbargyfreithiwr, bardd Edit this on Wikidata
TadJohn Owen Griffith Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn frodor o Gaernarfon, Gwynedd, cafodd yrfa fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac wedyn fel ynad heddwch ym Merthyr Tudful ac Aberdâr.[1] Roedd yn un o hyrwyddwyr cynnar y mudiad Cymru Fydd.[2]

Gwaith llenyddol golygu

Yn ogystal â dwy gyfrol o gerddi a chomedi, Y Bardd a'r Cerddor, a ddisgrifir fel "drama orau ei chyfnod" gan Bobi Jones[2], cyfrannodd nifer o erthyglau beirniadol a dychanol i gylchgronau Cymraeg fel Y Geninen.[1] Roedd Elphin yn fardd poblogaidd yn ei ddydd, ond llym yw beirniadaeth Bobi Jones ar ei gerddi:

"Dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd â goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall." Ond er hynny, "Roedd yn gymeriad llenyddol cwbl unigolyddol."[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Murmuron Menai (d.d.). Cerddi.
  • O Fôr i Fynydd (d.d.). Cerddi.
  • Y Bardd a'r Cerddor (d.d.). Drama.
  • (Gyda David Edwards a John Owen Jones) The Welsh Pulpit: divers notes and opinions, by a Scribe, a Pharisee and a Lawyer (1894)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. 2.0 2.1 2.2 Bobi Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Barddas, 1987), tud. 199 et passim..


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.