John Parry, Caerlleon

gweinidog

Golygydd, cyhoeddwr, gweinidog Methodistaidd a gramadegydd Cymreig oedd John Parry (7 Mai 177528 Ebrill 1846). Mae'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur Rhodd Mam, y catecism i blant a ddaeth yn ddarllen cyfarwydd i nifer o blant Cymru'r 19eg ganrif.

John Parry, Caerlleon
John Parry (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ganwyd17 Mai 1775 Edit this on Wikidata
Llandwrog Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1846 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.

Bywgraffiad golygu

Roedd Parry yn frodor o blwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), ond treuliodd dau draean o'i oes yn ninas Caer (Caerlleon) lle sefydlodd argraffwasg.

Yn 1818 dechreuodd gyhoeddi Goleuad Gwynedd (Goleuad Cymru yn nes ymlaen). Golygodd Y Drysorfa o 1831 ymlaen.

Ysgrifennodd Ramadeg Cymraeg a Gramadeg Hebraeg a chyfieithodd rhai o weithiau diwinyddol John Brown i'r Gymraeg.

Fe'i cofir yn bennaf fel awdur Rhodd Mam, llyfr catecism neu holwyddoreg a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1811. Er ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer plant, daeth yn brif gyfrwng hyfforddiant yn egwyddorion yr Eglwys Fethodistaidd a gwybodaeth Beiblaidd i genedlaethau o oedolion hefyd trwy waith yr Ysgol Sul. Ceiniog yn unig oedd pris y gyfrol fechan.

Cyfeiriadau golygu

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)