John Randolph
ysgrifennwr, offeiriad, academydd (1749-1813)
Clerigwr ac ysgolhaig Seisnig a fu'n Esgob Bangor oedd John Randolph (6 Gorffennaf 1749 – 28 Gorffennaf 1813).
John Randolph | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1749 Much Hadham, Saltwood |
Bu farw | 28 Gorffennaf 1813 |
Man preswyl | Fulham Palace |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, llenor, academydd |
Swydd | Esgob Llundain, Esgob Rhydychen, Esgob Bangor |
Cyflogwr | |
Tad | Thomas Randolph |
Priod | Jane Lambard |
Plant | Thomas Randolph, George Randolph |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bu Randolph yn dysgu ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn 1776 gwnaed ef yn Athro Regius Barddoniaeth yno. Yn 1783 daeth yn Athro Regius Diwinyddiaeth.
Yn 1799, penodwyd ef yn Esgob Rhydychen, lle bu nes ei drosglwyddo i fod yn Esgob Bangor yn 1807. Ar 12 Mehefin, 1809, gwnaed ef yn Esgob Llundain ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ex officio. Bu yn y swydd hyd ei farwolaeth.
Nid ymddengys ei fod yn gefnogol i addysg i'r tlodion. Wrth ddadlau yn erbyn ehangu ysgolion rhad, dywedodd y byddai addysgu'r tlodion yn "…puff up their tender minds or entice them into a way of life of no benefit to the publick and ensnaring to themselves."