John Roberts Evans

awdur Cymreig

Llenor Cymraeg oedd John Roberts Evans (1914 - 1982). Ysgrifennodd sawl drama ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur nofelau a straeon byrion.[1]

John Roberts Evans
Ganwyd1914 Edit this on Wikidata
Llanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
Bu farw1982 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yn 1914. Athro a phrifathro ysgol ydoedd wrth ei alwedigaeth. O 1954 hyd ei ymddeol yn 1976 bu'n brifathro ysgol gynradd Llanilar ac mae llawer o'i waith llenyddol yn ymwneud â'r fro honno. Dylanwad amlwg arall yn ei waith yw ei gyfnod yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

Dramâu golygu

  • Broc Môr (1956)
  • Chwe Drama Fuddugol (1960)
  • Ar Ymyl y Dibyn (1965)
  • Cath mewn Cŵd (1981)
  • Brawd am Byth (1981)

Nofelau golygu

  • Ar Drothwy'r Nos (1962)
  • Y Delfrydwr (1968)
  • Yn Dawel gyda'r Nos (1970)
  • Y Cwm Cul (1980)

Straeon byrion golygu

Tri chasgliad:

  • Blynyddoedd Coll (1960)
  • Diwrnod Poeth (1963)
  • Lleisiau yn y Niwl (1974)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru