John Salusbury (ganed 1567)

Bardd, marchog. 1567 – 24 Gorffennaf 1612

Uchelwr, tirfeddiannwr, gwleidydd a bardd Cymraeg oedd Syr John Salusbury (156724 Gorffennaf 1612). Ei elyn pennaf oedd Robert Devereux, Ail iarll Essex, Richard Trefor (1558 - 1638), Trefalun a'i ddilynwyr. Ef, yn dilyn dienyddio ei frawd hŷn, oedd etifedd stad a phlas Lleweni a leolir tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych. Roedd yn fab i Syr John Salusbury (m. 1566) a Catrin o Ferain (1534 – 27 Awst 1591).

John Salusbury
Ganwyd1565 Edit this on Wikidata
Lleweni Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 1612, 1613 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bardd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1601 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddJohn Salusbury Edit this on Wikidata
TadJohn Salusbury Edit this on Wikidata
MamCatrin o Ferain Edit this on Wikidata
PlantHenry Salusbury Edit this on Wikidata

I Goleg yr Iesu, Rhydychen yr aeth, ar 24 Tachwedd 1581 - yn ddim ond 14 mlwydd oed. Yn Rhagfyr 1586 priododd Ursula Stanley, merch anghyfreithlon Henry Stanley, iarll Derby. Ymladdodd mewn gornest un-i-un gyda pherthynas iddo, sef y capten Owen Salusbury, o bentref Holt, yng Nghaer ym Mawrth 1593; clwyfodd Owen a dihangodd rhag y gyfraith. Ni wyddys i sicrwydd beth oedd wrth wraidd yr helynt hwn, a gofidia Siôn Tudur mewn cywydd am yr ymraniadau teuluol rhwng Salbriaid Llewenni a Salbriaid Rug.[1]. Ymhen dwy flynedd wedi hynny, 19 Mawrth 1594/5, aeth John i astudio'r gyfraith i'r Middle Temple, ac am y 10 mlynedd nesaf treuliodd lawn cymaint o'i amser yn Llundain ag yn ei sir ei hun. Gwasnaethai frenhines Lloegr fel squire of the body, swydd y penodwyd ef iddi yn 1595.

Ym Mehefin 1601 urddwyd ef yn farchog gan Elisabeth I, brenhines Lloegr, ac ar 16 Rhagfyr etholwyd ef yn Aelod Seneddol tros Sir Ddinbych — hynny wedi brwydr ffyrnig yn erbyn ei elynion yn y sir: Syr Richard Trefor (1558 - 1638), Trefalun, Syr John Lloyd, Llanrhaeadr, a'r capten John Salusbury, Y Rug.

Y llenor golygu

Cyfrifai Syr John ei hun yn dipyn o fardd, a chyfansoddodd, yn null ei oes ac yn Saesneg, amryw o ganeuon serch a sonedau nad ydynt o fawr werth fel llenyddiaeth, ond serch hynny yn taflu goleuni ychwanegol ar beth o ganu Shakespeare a'r beirdd cyfoes eraill (gw. Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester). Nid ymddengys iddo byth ddychwelyd i Lundain wedi marw Elisabeth, a chymylwyd ei flynyddoedd olaf gan ymdrechion ei elynion i'w ddifrïo yng ngolwg y brenin newydd a'i lys.[2]

Bu farw 24 Gorffennaf 1612 gan adael stad Llewenni i'w fab Henry Salusbury (1589 - 1632), a aeth fel ei dad yn fyfyriwr i'r Middle Temple, 27 Tachwedd 1607, ac a urddwyd yn farwnig, 10 Tachwedd 1619.

Marchog ac Aelod Seneddol golygu

Wedi Gwrthryfel Essex ar 14 Mehefin 1601, gwnaed Salusbury yn farchog, fel gwobr am ddod a'r gwrthryfel i ben.[3] Roedd dau o'i gefndryd (Owen a John) yn ymladd ar yr ochr arall, a lladdwyd Owain.

Arweiniodd hyn at ysgarmes yn ystod etholiadau i'r Llywodraeth, sgarmes a elwir heddiw yn "Derfysg Wrecsam" yn Hydref 1601, gyda chefnogwyr John Salusbury ar y naill law a gweddillion cefnogwyr Essex, dan arweiniad Syr Richard Trevor, ar y llall. Trodd Salusbury at y Frenhines i gwyno, a chytunodd mai ef oedd wedi ennill yr etholiad, a gwnaed ef yn Aelod Seneddol.[4] Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych yn Rhagfyr 1601, ond nid oedd yno'n hwy na chydig ddyddiau, cyn ei derfynu.[2]

Yn eironig, ar farwolaeth Elizabeth, cefnogodd Iago, brenin newydd Lloegr, Essex a John Trevor, ac ychydig iawn o amser dreuliodd Salusbury yn Llundain wedi hynny.

Cyfeiriadau golygu

  1. LlGC: Llanst. MS. 124/628
  2. 2.0 2.1 John Klause, "The Phoenix and the Turtle in its Time", yn Gwynne Blakemore Evans (gol), In the Company of Shakespeare: Essays on English Renaissance Literature, Fairleigh Dickinson Univ Press, 2002, t.206-227.
  3. Borukhov, Boris (2015). "A More Precise Date for Shakespeare's 'The Phoenix and the Turtle". Notes & Queries 62 Issue 4: 567-569. https://doi.org/10.1093/notesj/gjv139.
  4. James P. Bednarz, Shakespeare and the Truth of Love: The Mystery of "The Phoenix and Turtle", t.66.