Richard Trefor (1558 - 1638)
Tirfeddiannwr pwerus, gwleidydd a milwr oedd Syr Richard Trefor (1558–1638), Trefalun (neu 'Drefalyn'), Maelor, (Sir Ddinbych yn y cyfnod hwnnw). Ef oedd mab hynaf Sion Trefor (m. 1589); ef hefyd oedd etifedd Ystâd Trefalun pan fu farw ei dad yn 1589. Fel gweddill ei frodyr, ei noddwr oedd Howard o Effingham (sef Charles Howard, Iarll 1af Nottingham), yr arglwydd-lyngesydd, a'i gwnaeth ef yn is-lyngesydd yng Ngogledd Cymru yn 1596.[1] Heriai uwchafiaeth teulu Salusbury Lleweni a theulu Almer (Dorset).
Richard Trefor | |
---|---|
Beddrod Richard Trevor (1558 - 1638) yn Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd ger Wrecsam. | |
Ganwyd | 1558 Yr Orsedd |
Bu farw | 1638 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, vice-admiral, tirfeddiannwr, Member of the 1597-98 Parliament |
Tad | Sion Trefor |
Mam | Mary Bruges |
Priod | Catherin Puleston |
Plant | Dorothy Trevor, Mary Trevor |
Priododd Catrin, merch Roesier Puleston o Emral a chawsant bedair o ferched. Oherwydd hynny, trosglwyddwyd Ystad Trefalun i'w nai, y Piwritan Syr John Trevor (1596–1673).
Bu'n gwasanaethu yn Iwerddon rhwng 1595-8, lle gwnaed ef yn farchog ac yn arglwydd-ddirprwy ar 8 Mai 1597; bu'n Weinyddwr militaraidd yr ynys ac yn gapten y milwyr hynny a godid yn Sir Ddinbych. Yn 1602 gwnaed ef yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau. Rhwng 1596 a 1626 roedd yn Is-Lyngesydd Gogledd Cymru.
Cyflwynwyd ef i'r Senedd yn 1597 gan Howard o Effingham - dros un o'i fwrdeisdrefi, yn dâl am wasanaeth a roes Trefor fel dirprwy-raglaw yn Sir Ddinbych (1596) yn codi milwyr ar gyfer ymgyrch Howard ac Essex ar Cadiz. Capteiniaid eraill Essex oedd yr uchelwyr John Salusbury, Rhug a John Lloyd, Bodidris. Bu i fab John Lloyd ac un o ferched Trefor briodi ei gilydd. Yn 1598 arweiniodd lu Gogledd Cymru i Gaer yn barod i'w hanfon i Iwerddon ond cyrhaeddodd Gaer heb y nifer cyflawn a ofynwyd amdano o sir Ddinbych; y rheswm dros y diffyg yn y niferoedd oedd iddo wrthod derbyn y milwyr newydd a gasglwyd ynghyd gan bleidwyr teulu Lleweni. Ceisiodd aelodau teulu Llewenni atal Trefor rhag codi milwyr yn Sir Ddinbych i ymladd dros Essex yn Iwerddon. Bu ysgarmes waedlyd yn Rhuthyn yn 1600 rhwng y ddwy ochor, y ddau deulu. Yn 1601 casglodd Trevor gynorthwywyr lleol gyda'r bwriad o geisio am y tro olaf ennill sedd seneddol y sir, ond methiant fu'r ymdrech ond plaid Llewenni a orfu.
Cymerwyd y swydd o ddirprwy-raglaw oddi wrtho a throdd at ymgyfreithio yn Llys Ystafell y Seren mewn achosion yn ymwneud â'r gwaith codi milwyr yn 1596 a 1600 ac etholiad 1601. Dychwelodd i Iwerddon lle bu rhwng 1603-6, yn bennaeth 50 o wŷr traed ac wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry.[2]
Treforiaid Trefalun
golyguCeir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):
- Richard Trefor (m. 1614), aelod o Doctors’ Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor ( Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).[3]
- Syr John Trefor I (m. 1630), gweinydd y llynges a gwleidydd.
- Syr Sackville Trefor (c.1565-1633), morwr.
- John Trevor (g. c. 1652).
- Syr Thomas Trefor (1572 - 1656), barnwr.
- Syr John Trevor (1596–1673), seneddwr.
- Syr John Trefor III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth.
- Syr Thomas Trefor (1612 - 1676), cyfrifydd y Duchy of Lancaster.
- Richard Trefor (m. 1676), hynafiaethydd .
- Thomas Trefor (1658 - 1750), y barwn Trefor (o Drefalun) 1af, a barnwr.
- Richard Trefor (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham.
Gweler hefyd
golygu- Trefor, Wrecsam
- Ieuan Trefor I - Clerigwr Cymreig oedd Ieuan Trefor I (bu farw 1357), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1346 hyd ei farw yn 1357.
- Ieuan Trefor II - Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408 ac awdur Cymraeg
- George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr - (1795 – 1869); AS
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Yn ôl y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein, bu'n "bennaeth 50 o wŷr traed, ac, wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry". Ond, ar ei feddrod yn Eglwys yr Holl Saint, Greffordd, dywedir iddo fod yn "bennaeth ar 100 o wŷr traed ac wedi hynny, 50 o wŷr meirch".
- ↑ (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).