John Sparkes
Actor a digrifwr o Gymro yw John Sparkes (ganwyd 9 Ionawr 1954). Ganwyd yn Abertawe ac mae'n fwy adnabyddus ar deledu Cymreig fel y cymeriad Barry Welsh, yn y cyfresi arobryn Barry Welsh is Coming (Adloniant Ysgafn Gorau, BAFTA Cymru, 1999, 2000, 2001, 2004). Roedd ganddo rannau mawr yn Naked Video, Absolutely, Pub Quiz, a Jeff Global's Global Probe, ac fe yw adroddwr y cartŵn deledu i blant Peppa Pig.[1]
John Sparkes | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1954 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, actor llais, actor teledu |
Adnabyddus am | Sam Tân, Peppa Pinc |
Naked Video a Absolutely
golyguSerennodd Sparkes yn y sioe sgets Naked Video, lle'r oedd yn chwarae'r cymeriad Siadwel, bardd 'geeky' yn byw mewn bedsit ac yn gwisgo anorac a sbectols.[2] Ymddangosodd y cymeriad hefyd pan oedd Sparkes yn rhan o raglen gomedi Bodgers, Banks & Sparkes ar BBC Radio 4. Ar ôl lladd y cymeriad yn Naked Video, adfywiodd Sparkes y cymeriad yn 2014 mewn cyfres o sioeau radio ar gyfer BBC Radio Wales, a ail-gomisiynwyd flwyddyn yn ddiweddarach.
Roedd yn un o'r tîm y tu ôl i'r sioe sgets Absolutely ar Channel 4, a gynhyrchwyd am bedwar blynedd rhwng 1989 a 1993.[3] Yn dilyn rhaglen radio arbennig a enillodd wobrau, comisiynwyd cyfres newydd ar gyfer BBC Radio 4 a ddarlledwyd yn Medi 2015.[4]
Barry Welsh
golyguRoedd Barry Welsh is Coming yn gyfres gomedi ar ITV Cymru. Yn ogystal â chwarae Barry Welsh, cyflwynydd truenus sioe sgwrsio, roedd Sparkes yn chwarae nifer o gymeriadau eraill yn y rhaglen, fel y canwr tafarn Gwyn, Old Mr Ffff a gohebydd newyddion Dinbych-y-pysgod Hugh Pugh. Er i'r gyfres ddod i ben yn 2004, fe ddychwelodd yn 2007 ar gyfer cyfres o raglenni arbennig.
Yn ystod ei rediad gwreiddiol, enillodd y gyfres bedair gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Adloniant Ysgafn Gorau.
Teledu plant
golyguSparkes yw llais yr adroddwr a rhai cymeriadau eraill yn fersiwn Saesneg y gyfres animeiddiedig i blant Peppa Pig[2] (lle mae llais Morwenna Banks, ei gyd-seren o Absolutely, i'w glywed hefyd), yn Shaun the Sheep mae'n lleisio Bitzer the Dog a the Farmer. Mae e hefyd yn lleisio Mr. Elf a King Marigold in Ben and Holly's Little Kingdom, Professor von Proton yn The Big Knights, Steven yn A Town Called Panic, a Fireman Sam yng nghyfresi 2003-05.
Gwaith arall
golyguYn 2005 perfformiodd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn Absolutely Presents John Sparkes and Pete Baikie gyda'i gydweithiwr o Absolutely.[5]
Ar deledu Cymreig, serennodd yn Jeff Global's Global Probe (ITV Cymru), ac fe atgyfodwyd y cymeriad Frank Hovis, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer cyfres Absolutely, yn Pub Quiz (BBC Cymru).
Mae Sparkes wedi ysgrifennu a chyflwyno tair cyfres deledu o Great Pubs of Wales ar gyfer ITV Cymru. Fe yw llais yr archifydd Goronwy mewn darn o Wallace and Gromit's World of Invention ar gyfer BBC One ac ysgrifennodd a chyflwynodd Ghost Story, lle'r oedd yn treulio'r noson ar ben ei hun gyda chamera mewn tai ag ysbrydion, o gwmpas Cymru. Fe gyd-ysgrifennodd a chyflwynodd y gyfres gomedi ffeithiol Doug Strong's Special Places, ar gyfer ITV Cymru a ITV Central.
Ffilmyddiaeth
golyguFfilm
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1989 | Melancholia | Roger Dere | |
2003 | Calendar Girls | Ffotograffydd Cymreig | |
2015 | Shaun the Sheep Movie | The Farmer, Bitzer | Llais |
2015 | Peppa Pig: The Golden Boots | Adroddwr | Llais |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1986 | Naked Video | Siadwel | 6 pennod |
1988 | Cabaret at Jongleurs | 1 pennod | |
1989-1993 | Absolutely | Amryw gymeriadau |
28 pennod |
1992 | Angry George Irons | Llais | |
1992 | Saturday Zoo | Glaswegian Matron | 1 pennod |
1994-1995 | The All New Alexei Sayle Show | Amryw gymeriadau |
8 pennod |
1996-2004 | Barry Welsh is Coming | Barry Welsh, Hugh Pugh, amryw gymeriadau | |
1998 | Comedy Nation | Amryw gymeriadau | |
2000 | The Strangerers | Bilbo | 2 pennod |
2001-2005 | Pub Quiz | Frank Hovis | |
2002 | A Town Called Picnic | Llais | |
2003-2005 | Fireman Sam | Samuel 'Sam' Peyton Jones | Llais |
2004 | Jeff Global's Global Probe | Amryw rannau | |
2004-present | Peppa Pig | Adroddwr, Mr. Rabbit, Mr. Potato, Uncle Pig | Llais |
2005 | Not Tonight with John Sergeant | Barry Welsh | Ffilm deledu |
2007-present | Shaun the Sheep | The Farmer, Bitzer | Llais |
2009 | Ben and Holly's Little Kingdom | Mister Elf, King Marigold, Zoe Baker | Llais |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mainwaring, Rachel (Jun 25, 2011). "John Sparkes: Bringing home the bacon". Wales Online.
- ↑ 2.0 2.1 Mainwaring, Rachel (Jun 12, 2011). "Siodwell creator John Sparkes is Welsh voice of Peppa Pig". Wales Online.
- ↑ White, Jim (20 January 1993). "Absolutely fabulous. Not: Baikie, Banks, Docherty, Hunter, Kennedy & Sparkes. Who? The comics from Absolutely tell Jim White why they're basking in obscurity". The Independent (UK). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 2016-02-11.
- ↑ Absolutely back for a full series - sketch team's comeback gathers pace, chortle.co.uk, 15 July 2015
- ↑ "Absolutely Presents John Sparkes and Pete Baikie". Chortle. 2005. Cyrchwyd 23 Ionawr 2013.
Dolenni allanol
golygu- John Sparkes ar wefan Internet Movie Database