Peppa Pinc
Cyfres deledu wedi ei hanimeiddio yw Peppa Pinc; mae'r fersiwn Gymraeg yn addasiad o'r gwreiddiol Peppa Pig, sydd yn Saesneg ac a grëwyd ac a gynhyrchwyd gan Astley Baker Davies ac E1 Entertainment. Hyd yn hyn mae dwy gyfres wedi cael eu darlledu a dechreuodd y drydedd gyfres Saesneg yn 2009.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu animeiddiedig |
---|---|
Crëwr | Neville Astley, Mark Baker |
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dechreuwyd | 31 Mai 2004 |
Genre | cyfres deledu i blant, cyfres deledu comig |
Cymeriadau | Peppa Pig |
Yn cynnwys | Peppa Pig, season 1, Peppa Pig, season 2, Peppa Pig, season 3, Peppa Pig, season 4, Peppa Pig, season 5, Peppa Pig, season 6, Peppa Pig, season 7, Peppa Pig, season 8 |
Dyddiad y perff. 1af | 31 Mai 2004 |
Hyd | 5 munud |
Cwmni cynhyrchu | Astley Baker Davies, eOne Family & Brands, Hasbro Entertainment |
Cyfansoddwr | Julian Nott |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Gwefan | https://peppapig.com, https://peppapig.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguRhaglen deledu i blant ydy Peppa Pinc, sy'n cynnwys cyfres o benodau 5-30 munud o hyd. Mae'n dilyn bywyd Peppa, hwch fach benywaidd anthropomorffaidd, ei theulu a'i ffrindiau. Mae pob un o'i ffrindiau yn famal gwahanol, pob un gyda'i enw'n cyflythrennu gyda'r math o anifail ydynt. Mae ffrindiau Peppa i gyd yr un oed a hi, ac mae Richard, ffrind George, sef brawd iau Peppa, yr un oed ag ef. Mae'r penodau'n tueddu i ddilyn digwyddiadau pob dydd megis mynychu cylch chwarae, nofio, ymweld a'u neiniau a'u teidiau, mynd i'r maes chwarae, reidio beiciau ac yn y blaen.
Mae'r cymeriadau i gyd yn gwisgo dillad, yn byw mewn tai, a gyrru ceir, ond maent yn dal yn berchen ar nodweddion yr anifeiliaid maent wedi eu seilio arnynt. Er enghraifft mae Peppa a'i theulu'n ffroeni fel moch yn ystod sgyrsiau ac yn hoff o neidio i byllau mwdlyd. Mae'r anifeiliad eraill hefyd yn gwneud synau wrth siarad, ac mae'r teulu Cwningod yn hoff o foron. Dim ond y cwningod sydd ddim yn byw mewn tŷ, maent yn byw mewn twll mewn bryn, ond mae gan y twll ffenestri a dodrefn.
Darlledwyd y gyfres wreiddiol gyntaf o 52 pennod pum munud ar sianel Five yn 2003, a darlledwyd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf fel rhan o raglenni plant meithrin Tickle-U Cartoon Network ar 22 Awst 2005, gyda'r lleisiau wedi eu hail-ddybio gydag acenion Americanaidd.
Yn ystod y tymor cyntaf, mae'r adroddwr / taid yn gymeriad nas gwelwyd o'r blaen. Ers y seithfed tymor, cychwynnodd llawer o'r straeon yn y fersiwn animeiddiedig gyda thaid (sydd hefyd yn adroddwr y sioe) yn cyflwyno'r stori i'w wyrion, ac yna'n darllen y stori o lyfr.
Gwobrau
golyguEnillodd y gyfres Mummy Pig at Work wobr "The Cristal for best TV production" yng Ngŵyl Annecy International Animated Film Festival ym Mehefin 2005.
Enillodd Mummy Pig at Work hefyd wobr Animeiddio Plant Meithrin yn y 10fed BAFTA Plant ar 27 Tachwedd 2005.[1]
Ymryson
golyguNi wisgodd Peppa wregys yn y car yn y ddwy gyfres gyntaf, ond wedi derbyn sawl cwyn, penderfynodd y cwmni animeiddio Astley Baker Davies y byddai pob animeiddiad o hynny ymlaen yn cynnwys gwregys ac y buasent yn ail-animeiddio'r golygfeydd perthnasol yn y ddwy gyfres gyntaf i gynnwys gwregys.[2]
Cymeriadau
golyguRhestrir y cymeriadau yn ôl teulu.
Rhestrir cyfoedion Peppa yn y cylch chwarae ar y rhestr gyda'u teuluoedd. Mae rhieni pob teulu hefyd yn mynychu'r cylch meithrin gyda'i gilydd.
Y Moch
golygu- Peppa Pinc
- George
Cynnyrch
golyguYn ogystal â DVDau, mae amryw o gynnyrch Peppa Pinc trwyddedig ar gael, gan gynnwys gemau fideo a thegannau eraill megis setiau chwarae, cardiau chwarae, cerbydau a thegannau meddal. Mae hefyd cyfres o lyfrau yn seiliedig ar y cymeriad. Mae hefyd deunydd tŷ ar gael ar gyfer y stafell ymolchi, dillad gwely, bwyd, diod, dillad a gemwaith.
DVD
golyguHyd yn hyn mae 11 DVD Region 2 o'r Saesneg gwreiddiol wedi cael eu rhyddhau yn Ewrop.
Teitl | Cyfres - penodau | Dyddiad rhyddhau |
---|---|---|
"Peppa Pig: Muddy Puddles" | 7 Chwefror 2005 | |
"Peppa Pig: Flying A Kite" | 4 Gorffennaf 2005 | |
"Peppa Pig: New Shoes" | 4 Tachwedd 2005 | |
"Peppa Pig: Piggy In The Middle" | 20 Mawrth 2006 | |
"Peppa Pig: My Birthday Party" | 26 Hydref 2006 | |
"Peppa Pig: Bubbles" | 28 Mai 2007 | |
"Peppa Pig: Peppa's Christmas" | Tachwedd 2007 | |
"Peppa Pig: Balloon Ride" | Mawrth 2008 | |
"Peppa Pig: Cold Winter's Day" | Tachwedd 2008 | |
"Peppa Pig: Stars" | Mawrth 2009 | |
"Peppa Pig: Princess Peppa" | 26 Hydref 2009 |
DVD Ffrangeg
golyguRhyddhawyd DVD region 1, gan gynnwys fersiwn Ffrangeg ar 25 Medi 2006.
Mae'r DVD Ffrangeg Cyfrol 4 yn cynnwys y penodau:
- Grenouilles, vers et papillons (Frogs And Worms And Butterflies)
- La cabane dans l’arbre (The Tree House)
- Monsieur l’épouvantail (Mister Scarecrow)
- La mare aux petits bateaux (The Boat Pond)
- Jour de brume (Foggy Day)
- Les petites bêtes (Tiny Creatures)
- Une promenade à vélo (The cycle ride)
- Le pique nique (Picnic)
- Les bulles (Bubbles)
- Vive le camping (School Camp)
DVD Cymraeg
golyguRhyddhawyd y DVD Cymraeg cyntaf, Peppa Pinc: Pyllau Mwdlyd, ym mis Hydref 2009, gan Gwmni Recordiau Sain. Dyma restr y penodau ar y DVD:[3]
- Pyllau Mwdlyd
- Mr Deinosor ar Goll
- Ffrind Gorau
- Poli Parot
- Chwarae Cuddio
- Ysgol Feithrin
- Gwaith Mami Mochyn
- Chwarae Pêl
- Sbectol ar Goll
- Garddio
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bafta. peppapig.com (Tachwedd 2005).
- ↑ Peppa Pig in seatbelt safety row. BBC (2009-01-15).
- ↑ Peppa Pinc: Pyllau Mwdlyd (DVD). Cwmni Recordiau Sain. Adalwyd ar 15 Ionawr 2009.