John Thomas Rees
Roedd John Thomas Rees (14 Tachwedd, 1857 –14 Hydref, 1949) yn gerddor, cyfansoddwr ac athro cerddoriaeth o Gymru.[1]
John Thomas Rees | |
---|---|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1857 Cwmgïedd |
Bu farw | 14 Hydref 1949 Pen-y-garn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, glöwr |
Plant | Thomas Ifor Rees |
Cefndir
golyguGanwyd Rees yn Llwynbedw, ger Cwmgïedd, Sir Frycheiniog yn fab hynaf Thomas Rees, glöwr, a Hannah (née Morgan) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn John Morgan Rees, ond ffeiriodd yr enw canol Morgan am Thomas, enw ei dad, i osgoi drysu rhyngddo ef a chydweithiwr iddo o'r enw John Morgan. Bu farw ei fam pan oedd tua 5 mlwydd oed a chafodd ei fagu gan rieni ei fam ar fferm Llwynbedw, Ystradgynlais.[2]
Glöwr
golyguYn naw mlwydd oed aeth Rees i weithio ym maes glo'r Rhondda gyda'i dad. Bu bron iddo golli ei fywyd pan gafodd ei ddal lawr ar reiliau'r wagenni, gyda choes wedi'i dorri, wedi i lo disgyn o nenfwd y pwll. Erbyn 1876 roedd wedi symud o byllau'r Rhondda i weithio mewn pwll yng Nghwmaman.
Cerddor
golyguTra yn fachgen yng Nghwmgïedd mynychodd Rees ddosbarthiadau tonic sol-ffa Phylip Thomas. Wedi profi'n fedrus yn y maes dechreuodd cynnal ei ddosbarthiadau ei hun a bu'r arweinydd Daniel Protheroe ymysg ei ddisgyblion.[3] Wedi symud i Gwmaman dechreuodd cynnal dosbarth sol-ffa yn Soar, capel Methodistiaid y pentref.[4]
Yn ei gyfnod yng Nghwmaman enillodd Tystysgrif Uwch y Coleg Sol-ffa a chafodd peth lwyddiant eisteddfodol, arweiniodd hyn at godi tysteb leol er mwyn iddo gael mynychu Prifysgol Aberystwyth i gael hyfforddiant cerddorol pellach o dan Joseph Parry.[5] Aeth Rees i Emporia, Kansas am flwyddyn ym 1882 i barhau a'i addysg gerddorol. Enillodd gradd Mus. Bac. fel myfyriwr allanol o Brifysgol Toronto ym 1889 .[2]
I ategu at ei incwm bu'n cynnal dosbarthiadau cerddorol yng Nghapel y Garn, Pen-y-garn, wedi ei gymeradwyo ar gyfer y swydd gan gerddor arall o Sir Frycheiniog David Jenkins, Mus. Bac.
Wedi dychwelyd i Gymru o Kansas cafodd swydd yn dysgu cerddoriaeth i oedolion yn Aberystwyth a swydd rhan amser fel athro cerddoriaeth yn Ysgol Tregaron. Bu hefyd yn athro rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ym 1885 enillodd Rees wobr o £20 (swm sylweddol ar y pryd) am gyfansoddi pedwarawd i offerynnau llinynnol ar gyfer eisteddfod genedlaethol Aberdâr.[6] Ym 1892 penodwyd Rees yn brif arholwr graddau cerddorol Gorsedd y Beirdd, gan bara yn y swydd am sawl blwyddyn.[7] Bu hefyd yn feirniad rheolaidd mewn nifer fawr o eisteddfodau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Gyda chyfnod ei yrfa fel cerddor yng nghyd daro a'r cyfnod pan fu cymanfaoedd canu'r capeli Cymraeg ar eu hanterth, bu galw reolaidd ar Rees i arwain cymanfaoedd ledled Cymru. Er gwaethaf ei brysurdeb fel beirniad ac arweinydd, llwyddodd canfod yr amser i wasanaethu fel blaenor, organydd ac athro ysgol Sul yng Nghapel y Garn am dros 40 mlynedd.[7].
Cyfansoddiadau
golyguCyfansoddodd Rees nifer o ddarnau o gerddoriaeth glasurol gan gynnwys:
- Duw sydd Noddfa
- Y Teulu Dedwydd’ (cantata)
- Crist yr Andes (cantata i blant)
- Cantawd yr ysgol (cantata i blant)
- Hosannah
- Christos
- Pedwarawd Llinynnol (1895)
- Y Trwbadŵr (seiliedig ar eiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym)
- Hillsides of Wales (i feiolin a phiano).
Cyfansoddodd a threfnodd nifer o emyn donau. Mae rhai ohonynt yn dal i gael eu canu ac yn ymddangos yn Caneuon Ffydd y llyfr emynau traws enwadol a gyhoeddwyd yn 2001:[8]
- Brynhyfryd (trefniant) (Y Gwaed a rhedodd ar y groes)
- Caernarfon (trefniant)
- Cwm-nedd (trefniant)
- Emyn Gosber (Pan fo’n blynyddoedd ni'n byrhau, pan fo'r cysgodion draw'n dyfnhau)
- Glanhafren (trefniant)
- Penparc (A'i am fy meiau i, dioddefodd Iesu mawr)
Teulu
golyguPriododd Elizabeth Davies, Bronceiro, Llanfihangel Gennau'r Glyn ar 20 Mai 1881,[9] cawsant wyth o blant. Ymysg eu plant oedd Dr Thomas Ifor Rees llysgennad Prydain i Bolifia
Marwolaeth
golyguBu farw ym Mhen-y-garn, Ceredigion ychydig yn brin o 92 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent y Garn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, D. E. P., (1970). REES, JOHN THOMAS (1857 - 1949), cerddor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 2 Ion 2019
- ↑ 2.0 2.1 Brycheiniog, Cyf III 1957 JOHN THOMAS REES, Mus. BAC., F.T.S.C., CWMGIEDD AND PEN-Y-GARN: 1857-1949 adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ Brycheiniog, Cyf XIII 1968/69 LLWYNBEDW, CWMGIEDD, YSTRADGYNLAIS adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ "CWMAMAN ABERDAR - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-07-19. Cyrchwyd 2019-01-02.
- ↑ Brycheiniog, Cyf I 1955 Teithio yn Sir Frycheiniog adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ "No title - The London Kelt". J. G. Grellier. 1895-06-29. Cyrchwyd 2019-01-02.
- ↑ 7.0 7.1 Y Traethodydd Cyf CVI (XIX) 1951 O Llew Owen Cerddor y Cysegr adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ Delyth G. Morgans; Cydymaith Caneuon Ffydd tud 657; Pwyllgor Caneuon Ffydd; 19 Rhagfyr 2008; ISBN 9781862250529
- ↑ "Family Notices - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1881-06-04. Cyrchwyd 2019-01-02.