Thomas Ifor Rees
Diplomydd, cyfieithydd ac awdur llyfrau taith oedd Thomas Ifor Rees (16 Chwefror 1890 – 11 Chwefror 1977), a anwyd yn Rhydypennau, Bow Street, ger Aberystwyth, Ceredigion, yn fab i'r cerddor John Thomas Rees a'i wraig Elizabeth Davies.[1]
Thomas Ifor Rees | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1890, 1890 Rhydypennau |
Bu farw | 11 Chwefror 1977, 1977 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd |
Swydd | ambassador of the United Kingdom to Bolivia |
Cyflogwr | |
Tad | John Thomas Rees |
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth gan raddio yn 1910. Roedd yn was sifil a threuliodd nifer o flynyddoedd tramor yn cynnwys cyfnod fel llysgennad Prydain ym Molifia.
Gyrfa golygu
Daeth yn aelod o'r llu llysgenhadol yn 1913.
Bu iddo ymddeol yn 1950.
Gwaith llenyddol golygu
Ysgrifennodd dri llyfr taith: In and Around the Valley of Mexico (1953), yn Saesneg, a Sajama (1960) ac Illimani (1964) am deithiau yn Ne America yn Gymraeg. Ystyrir y ddau lyfr olaf yn glasuron o lyfrau taith yn y Gymraeg. Maent yn cynnwys nifer o luniau a dynwyd gan yr awdur ei hun hefyd, sy'n eu gwneud yn gyfrolau deniadol.
Cyfieithodd nofelau gan René Bazin, Xavier de Maistre, J.R. Jiminez, C.F. Ramuz a Henri Troyat i'r Gymraeg, ynghyd â'r gerdd Elegy written in a Country Churchyard gan Thomas Gray a fersiwn Edward Fitzgerald o Rubaiyat Omar Khayyām.
Llyfryddiaeth golygu
- In and around the valley of Mexico (1953)
- Sajama: teithiau or ddau gyfandir (Mécsico, Nicaragua, Peru, Bolivia) (1960)
- Illimani yn nhiroedd y gorllewin : teithiau ac atgofion (1964)