Lleidr banc o Americanwr oedd John Stanley Wojtowicz (9 Mawrth 19452 Ionawr 2006) oedd yn ysbrydoliaeth i'r ffilm Dog Day Afternoon.[1]

John Wojtowicz
Ganwyd9 Mawrth 1945 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethlleidr banc Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Eden Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a phersonol golygu

Ganwyd Wojtowicz yn Ninas Efrog Newydd ym 1945 yn fab i fewnfudwyr Pwylaidd. Priododd Carmen Bifulco, ym 1967, a chawsant ddau blentyn cyn eu hysgariad ym 1969. Ym 1971 cyfarfu Wojtowicz â Ernest Aron mewn gŵyl Eidalaidd yn Ninas Efrog Newydd, a phriododd y ddau ar 4 Rhagfyr 1971 yn Greenwich Village.[2]

Lladrad banc golygu

Ar 22 Awst 1972, ceisiodd Wojtowicz, Salvatore Naturile, a Robert Westenberg ysbeilio cangen o fanc Chase Manhattan ar gornel East Third Street ac Avenue P yn Gravesend, Brooklyn. Y bwriad oedd defnyddio'r arian a ladratwyd i dalu am lawdriniaeth ailgyfeirio rhyw ar gyfer Ernest Aron.[2] Cadwodd Wojtowicz a Naturile saith o weithwyr y banc yn wystlon am 14 o oriau. Gwnaeth Westernberg ffoi o'r man cyn i'r ysbeiliad ddechrau pan welodd car heddlu ar y stryd. Roedd gan Wojtowicz ryw wybodaeth o sut mae banciau yn gweithio, gan roedd yn gyn-glerc banc. Mae'n debyg y wnaeth seilio ei gynllun ar olygfeydd o'r ffilm The Godfather, a welodd yn gynharach y diwrnod hwnnw, ac aeth Al Pacino, seren The Godfather, ymlaen i bortreadu Wojtowicz yn Dog Day Afternoon. Arestiwyd Wojtowicz, ond cafodd Naturile ei ladd gan yr FBI yn ystod eiliadau olaf y digwyddiad.[3]

Ar ôl y lladrad golygu

Yn ôl Wojtowicz, cafodd gynnig bargen i bledio'n euog, ond fe'i amharchwyd gan y llys, ac ar 23 Ebrill 1973 cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd ym Mhenydfa Ffederal Lewisburg, a dreuliodd 10 mlynedd yno. Enillodd $7,500 trwy werthu'r hawliau ffilm i'w hanes a 1% o'i elw net, a defnyddiodd yr arian i gyllido llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw Ernest Aron, a newidiodd ei henw i Elizabeth Eden. Rhyddhawyd Wojtowicz o'r carchar ar 10 Ebrill 1987. Bu farw Elizabeth Eden o niwmonia o ganlyniad i AIDS ar 29 Medi 1987 yn Rochester pan oedd yn 41 mlwydd oed.[4] Bu farw Wojtowicz o ganser ar 2 Ionawr 2006.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) John Wojtowicz in the Notable Names Database. Soylent Communications.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Ernest Aron Became Elizabeth Eden - AIDS Kills Woman Behind 'Dog Day'. Los Angeles Times (30 Medi 1987).
  3. (22 Medi 1972) The Boys in the Bank, Life, Cyfrol 73, Rhifyn 12 (yn Saesneg), tud. 66–74
  4. (Saesneg) Elizabeth Eden, Transsexual Who Figured in 1975 Movie. New York Times (1 Hydref 1987).
  5. Katz, Celeste (23 Ebrill 2006). 'Dog Day's' journey into legend: Robber, lover gone, but the flick is back. New York Daily News, t. 30.