John Wynne (diwydiannydd)
Diwydiannydd a dyngarwr o Gymru oedd John Wynne (1650 – 31 Rhagfyr 1714) a geisiodd troi pentref Trelawnyd yn dref marchnad a chanolfan y diwydiant mwyngloddio plwm.
John Wynne | |
---|---|
Ganwyd | 1650 Tegeingl, Trelawnyd |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1714 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwydiannwr |
Ganwyd yn nhŷ-fferm Copa'rleni, a adnabyddir fel "Plas y Gop" heddiw, yn ddisgynnydd i Edwin ap Gronw, arglwydd Tegeingl.[1] Addysgwyd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen o 1668, gan ymuno â Gray's Inn y flwyddyn ganlynol. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1695, swydd a ddeliodd ei daid ym 1677.[1]
Newidiodd enw pentref Trelawnyd i Newmarket (Cymraeg: "Marchnad Newydd") ym 1710,[1] drwy ennill cynneddf gan Gofrestra'r Esgob i'w newid. Roedd Wynne eisoes wedi ail-adeiladu rhan helaeth o'r pentref, a sefydlodd nifer o ddiwydiannau, marchnad wythnosol a ffair flynyddol,[2] ond yn bennaf credai mai yn y diwydiant plwm oedd gan y pentref rôl iw chwarae.
Bwriad newid enw Trelawnyd oedd i droi'r bentref yn dref farchnad ar gyfer yr ardal, ond methodd yr ymgyrch gan i'r Rhyl ddod yn brif dref marchnad yr ardal yn hytrach na Newmarket.[3] Parhaodd yr enw Newmarket hyd 1954, pan ail-enwyd yn swyddogol yn Nhrelawnyd.[2]
Bu farw Wynne ar 31 Rhagfyr 1714, gan adael arian yn ei ewyllys i sefydlu ysgol ramadeg Newmarket, ni barhaodd yr arian a gwariwyd yr arian rhywle arall yn erbyn ei ewyllys. Cafodd yr arian a adawodd er mwyn helpu tlodion Newmarket yr un dynged.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadru Ar-lein: Wynne, John. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ 2.0 2.1 Trelawnyd (formerly Newmarket). Genuki. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ Trelawnyd Tourist Information. AboutBritain.com. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.