Roedd Ernest John Morris, OBE (20 Mehefin 1916 - 6 Mai 1999) yn gyflwynydd teledu Cymreig. Roedd yn adnabyddus am raglenni ar gyfer plant ar y BBC ar bwnc sŵoleg, yn fwyaf nodedig am Animal Magic ac am leisio'r gyfres storïau Tales of the Riverbank a gynhyrchwyd yng Nghanada am Hammy the Hamster, Roderick the Rat, GP the Guinea Pig, a'u ffrindiau ymysg anifeiliaid amrywiol oedd yn byw ar hyd glan yr afon.

Johnny Morris
GanwydErnest John Morris Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1916 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Wiltshire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Morris yng Nghasnewydd, yn fab i bostfeistr. Dysgodd i chwarae'r ffidil yn blentyn a bu'n teithio o amgylch cymoedd De Cymru, gan berfformio gyda'i dad a oedd yn chwarae'r sielo. Mynychodd Morris Ysgol Hatherleigh, Casnewydd, a bu'n gweithio fel clerc cyfreithiwr, yn geidwad amser ar safle adeiladu ac yn rheoli fferm 2,000 erw (8.1 km2) yn Wiltshire am dair blynedd ar ddeg.[1]

Gyrfa radio a theledu golygu

Darganfuwyd Morris yn adrodd storïau mewn tafarn gan gynhyrchydd adran rhanbarth y gorllewin o Wasanaeth Cartref y BBC, Desmond Hawkins. Gwnaeth Morris ei ymddangosiad cyntaf fel cyflwynydd radio ym 1946, ac fe'i hymddangosodd mewn nifer o gyfresi rhanbarthol yn ystod y 1950au. Roedd yn aml i'w glywed ar raglenni ysgafn a rhaglenni adloniant fel storïwr, megis Pass the Salt, neu fel sylwebydd ar ddigwyddiadau lleol.[2]

Roedd Morris yn ddynwaredwr naturiol. Ymddangosodd ar y teledu gyntaf fel The Hot Chestnut Man, slot byr lle cafodd ei ddangos yn eistedd yn rhostio castanau. Byddai'n dweud storïau doniol mewn acen gorllewin Lloegr a fu'n aml yn gorffen gyda moeswers.

Ym 1960 dechreuodd leisio Tales of the Riverbank, cynhyrchiad a fewnforiwyd o Ganada am Hammy the Hamster, Roderick the Rat, GP the Guinea Pig, a'u ffrindiau ymysg anifeiliaid amrywiol oedd yn byw ar hyd glan yr afon. Roedd y sioe yn defnyddio ffilm a arafwyd o anifeiliaid go iawn yn cael ei ffilmio yn gwneud pethau '"dynol" megis gyrru car neu gwch, a byw mewn tai.[3]

Yn y 1960au, lleisiodd Morris lyfrau 1-11 o The Railway Stories, Cyfres llyfrau'r gan y Parch W. W. Awdry. Ail-ryddhawyd y recordiadau o'r wyth llyfr cyntaf ar fformat LP yn y 1970au ond roedd rhifau 9-11 ar goll a chawsant eu hail recordio gan Willie Rushton.

Arweiniodd gallu Morris i greu byd y gallai plant ei gysylltu â hi trwy ddynwared at ei rôl fwyaf adnabyddus. Bu'n gyflwynydd, llefarydd a'r 'ceidwad sw' y rhaglen Animal Magic am fwy na 400 o rifynnau o 1962 hyd 1983. Gyda mewnosodiadau yn cael eu saethu yn Sw Bryste, byddai Morris yn cynnal deialog gomig gyda'r anifeiliaid, lle fu ef hefyd yn lleisio rhannau'r anifeiliaid o'r sgwrs. Ei gydymaith rheolaidd ar y sioe oedd Dotty y lemwr. Pan syrthiodd y syniad o osod rhinweddau a lleisiau dynol i anifeiliaid allan o ffasiwn, rhoddwyd gorau i'r gyfres.[4]

Defnyddiodd Morris ei dechneg sylwebaeth ddigrif ar gyfer raglenni eraill, megis Follow the Rhine, rhaglen daith BBC2 a oedd yn cynnwys sylwebaeth ddoniol Morris gyda'i gydymaith Tubby Foster - mewn gwirionedd ei gynhyrchydd Brian Patten. Seiliwyd Follow the Rhine ar gyfres debyg a darlledwyd ar BBC Radio 4 Johnny's Jaunts. Roedd Johnny's Jaunts yn dilyn taith Morris ar y Rhein ac ar siwrneiau eraill ledled y byd megis Sbaen, Hong Kong, Japan, UDA, Singapore, Malaysia, Gwlad Thai, De America, Ynysoedd y Môr De a Ffrainc a darlledwyd rhwng 1957 a 1976.

Yn y 1970au, bu Morris yn darllen straeon amser gwely ar gyfer y Swyddfa'r Bost i blant cael eu clywed dros y ffôn (y swyddfa Bost oedd yn rhedeg y gwasanaeth ffôn ar y pryd). Gallai'r plant ddeialu 150 a chlywed stori wahanol dros y ffôn bob wythnos. Roedd hefyd yn gyflwynydd rhaglen ar Wasanaeth Ysgolion Radio'r BBC Singing Together.

Mewn teyrnged i'w rôl gyda Animal Magic, ychwanegodd Morris ei lais i'r gyfres o hysbysebion trydan Creature Comforts a enillodd wobrau, a grëwyd gan Aardman Animations. Roedd yr hysbysebion yn cynnwys anifeiliaid animeiddiedig plastisin yn siarad am eu bywyd a'u hamodau mewn ffordd oedd yn debyg i'r deialogau roedd Morris wedi'u creu yn y sioe deledu gynharach.

Ym mis Mehefin 2004, cafodd Morris a Bill Oddie eu proffilio ar y cyd yn y gyntaf o gyfres o dair rhaglen dogfen ar BBC Two, The Way We Went Wild, am gyflwynwyr bywyd gwyllt y teledu.

Dyfarnwyd yr OBE i Morris ym 1984. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, There's Lovely, ym 1989.

Marwolaeth golygu

Roedd Morris yn ddiabetig a chafodd ymgwympiad yn ei gartref yn Hungerford, Berkshire, ym mis Mawrth 1999. Fe'i derbyniwyd i Ysbyty Tywysoges Margaret, Swindon am brofion, cafodd ei ryddhau i gartref nyrsio yn ardal Devizes, lle bu farw ar 6 Mai 1999. Roedd ei wraig, Eileen, wedi marw deng mlynedd ynghynt; roedd ganddo ddau lysfab.[5]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu