Castanwydden bêr

Castanea sativa
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Castanea
Rhywogaeth: C. sativa
Enw deuenwol
Castanea sativa

Llysieuyn blodeuol (neu legume) yw Castanwydden bêr sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Fagaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Castanea sativa a'r enw Saesneg yw Sweet chestnut.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Castanwydden, Castanwydd, Castanwydden Bêr, Cnau Castan, Pipwydd, Sataen, Satain.

Eraill yn yr un teulu yw: ffa soya (Glycine max), y ffa cyffredin (Phaseolus), pys gyffredin (Pisum sativum), chickpea (Cicer arietinum), cnau mwnci (Arachis hypogaea), pys per (Lathyrus odoratus) a licrs (Glycyrrhiza glabra).

Enwau Lleoedd

golygu

Dim ond un enw sy’n cynnwys yr elfen “castan” sydd yng nghronfa Melville Richards [1], tystioaeth mae’n debyg i brinder gymharol y goeden hon, ac i’w statws anghynhenid. Gall unrhyw enw a ddargafyddir gyfeirio un ai at y rhywogaeth hon neu at ei chwaer rhywogaeth castanwydden y meirch. Gellid dyfalu mai prif werth y gastanwydden bêr fyddai ei ffrwyth amheuthun a bwytadwy tra bod castanwydden y meirch, os byddai gwerth iddi, y pren fyddai hynny yn bennaf.

Fodd bynnag mae peth tystiolaeth yn y Gymraeg i ddefnydd cnau castanwydd, dros y ffin in Swydd Gaerloyw. "Castein-iarth" oedd un o’r tarddiadau a osodwyd yn The Place Names of Gloucestershire (Smith 1964) fel y’i henwyd am Castiart neu Castiard yng nghofnodion Cartwlari Abaty Flaxley a Fforest Dena. Tybir mai tarddu yn wreiddiol o‘r Lladin castanea am castanwydden bêr y mae. Dywed bod y goron wedi caniatáu degwm o holl gnau castanwydd yn Dena i‘r Abaty yn 1153 - et singulis annis totam decimam castanearum de Dena. Hyd yma dyma’r unig dystiolaeth o gastanwydden bêr fel bwyd yn y Gymraeg [gwirio Linnard].... ?[2] Am ail elfen yr enw Castein-iarth, mae’n debyg mai yr un iarth sydd yma a hwnnw yn Peniarth - sef pentir, neu dir amgeuedig.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: