Jonathan Miller
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr ac opera, actor, awdur, a meddyg o Loegr oedd Syr Jonathan Wolfe Miller (21 Gorffennaf 1934 – 27 Tachwedd 2019).[1]
Jonathan Miller | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1934 |
Bu farw | 27 Tachwedd 2019 Llundain |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr theatr, meddyg, cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr opera, cyfarwyddwr, cynhyrchydd |
Tad | Luis Monti |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Medal Albert, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Marchog Faglor, Fellow of the Royal College of Physicians of Edinburgh |
Ganed yn St John's Wood, Dinas Westminster, yng nghanol Llundain, yn fab i seiciatrydd a nofelydd. Derbyniodd ei radd o Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, ym 1956, a derbyniodd ei radd feddygol o Ysgol Feddygaeth Coleg y Brifysgol, Prifysgol Llundain, ym 1959.
Ymddangosodd Miller ar lwyfan yn gyntaf yng Ngŵyl Caeredin ym 1961, yn un o actorion ac awduron y sioe ddychan Beyond the Fringe. Dechreuodd ysgrifennu sgriptiau teledu ym 1963. Denodd sylw o ganlyniad i'w gynyrchiadau herfeiddiol o glasuron Shakespeare a Sheridan. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyswllt Theatr Genedlaethol Lloegr ym 1973, ond ni chafodd gyfleoedd i dorri tir newydd a fe benderfynodd ymddeol ym 1975. Bu'n weithgar ym myd opera ac ar y teledu yn ogystal â'r theatr.
Yn y 1980au gweithiodd am gyfnod yn gymrawd ymchwil ar bwnc niwroseicoleg ym Mhrifysgol Sussex. Gweithiodd Miller yn gyfarwyddwr artistig yn theatr yr Old Vic yn Llundain o 1988 i 1990. Ysgrifennodd a chyflwynodd sawl gyfres deledu ffeithiol, gan gynnwys The Body in Question (1978), Madness (1991), ac Atheism: A Rough History of Disbelief (2004). Cafodd ei urddo'n farchog yn 2002. Bu farw yn Llundain yn 85 oed, wedi iddo ddioddef clefyd Alzheimer.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Michael Coveney, "Sir Jonathan Miller obituary", The Guardian (27 Tachwedd 2019). Adalwyd ar 31 Mai 2020.