Joni Jones (ffilm)
ffilm
(Ailgyfeiriad o Joni Jones)
Cyfres deledu Gymraeg a'i hail-addaswyd fel ffilm yw Joni Jones. Stephen Bayly oedd y cyfarwyddwr. Mae'n seiliedig ar Gwared y Gwirion (1966) gan R. Gerallt Jones. Mae'n adrodd hanes bachgen ifanc yng Ngogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Darlledwyd am y tro cyntaf ar S4C, dydd Nadolig 1988. Pum pennod 30 munud oedd gan y gyfres ddrama wreiddiol, ond fe'i ail-addaswyd ar gyfer Miramax a Disney fel ffilm nodwedd 90 munud o hyd. Yr ail raglen yn y gyfres, "Yr Ifaciwis", oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i’w harddangos yng Ngŵyl Ffilm Llundain.
Cyfarwyddwr | Stephen Bayly |
---|---|
Cynhyrchydd | Linda James |
Ysgrifennwr | Ruth Carter |
Cerddoriaeth | Trevor Jones |
Sinematograffeg | Richard Greatrex |
Golygydd | Sara Jolly |
Sain | Malcolm J. Davies |
Dylunio | Hildegard Bechtler |
Cwmni cynhyrchu | Sgrîn ’82 |
Dyddiad rhyddhau | 4 Tach 1982 |
Amser rhedeg | 5 × 30 mun |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cast a chriw
golyguPrif gast
golygu- Richard Love (Joni Jones)
- Iola Gregory (Mrs. Jones)
Cast cefnogol
golygu- Nesta Harris – Mrs. Morris
- Dic Hughes – Saer Coed
- Eirlys Hywel – Mrs. Davies
- Llewelyn Jones – Wil
- Catrin Dafydd – Mrs. Davies
- Glyn Foulkes – P.C. Roberts
- Valmai Jones – Mrs. Evans
- Elen Roger Jones – Miss Brooks
Cydnabyddiaethau eraill
golygu- Colur – Mary Hillman
- Gwisgoedd – Sara Hind
Manylion technegol
golyguLliw: Lliw
Lleoliadau saethu: Gogledd Cymru
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr |
---|---|---|
International Film Festival for Children and Young People, Gijón, Sbaen | 1983 | "Premio Pelayo" |
Chicago International Festival of Children’s Film | 1983 | Cynhyrchiad Teledu Gorau ar Gyfer Plant, Cyfres |
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau
golygu- R. Gerallt Jones, Gwared y Gwirion (Abercynon: Cwmni Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1966.)
Adolygiadau
golygu- Adolygiad yn Barn Rhifau 239/240, Rhagfyr/Ionawr 1982/83, t. 405.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Joni Jones (ffilm) ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan Trevor Jones Archifwyd 2015-09-06 yn y Peiriant Wayback – gan gynnwys clip sain o gerddoriaeth agoriadol y rhaglen.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Joni Jones ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.