José Alfredo Martínez de Hoz
Gwleidydd o'r Ariannin oedd yn Weinidog Economi'r Ariannin o 1976 hyd 1981 oedd José Alfredo Martínez de Hoz (13 Awst 1925 – 16 Mawrth 2013)[1][2] yn ystod oes yr jwnta filwrol. Mabwysiadodd bolisïau'r farchnad rydd gan ddad-ddiwydiannu'r Ariannin, ond cafodd ei feio pan cwympodd economi'r wlad ar ddechrau'r 1980au.
José Alfredo Martínez de Hoz | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1925 Salta |
Bu farw | 16 Mawrth 2013 o trawiad ar y galon Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Minister of Economy |
Tad | José Alfredo Martínez de Hoz |
llofnod | |
Cafodd ei gyhuddo o dwyll ac o gael llaw mewn herwgipio'r dau ddyn busnes Federico a Miguel Gutheim, ond derbynnodd bardwn gan yr Arlywydd Carlos Saúl Menem ar 30 Rhagfyr 1990. Cafodd ei arestio eto am yr herwgipiadau yn 2010.[1]
Mae'n debyg iddo farw o drawiad ar y galon.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Schmall, Emily (17 Mawrth 2013). José Alfredo Martínez de Hoz, Argentine Official During Dictatorship, Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 25 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Jose Alfredo Martinez de Hoz: Politician involved in Argentina's 'dirty war'. The Independent (23 Mawrth 2013). Adalwyd ar 25 Mawrth 2013.