ETA
Mudiad a hawliai annibyniaeth i Wlad y Basg oedd Euskadi Ta Askatasuna, a adnabyddir ran amlaf fel ETA ac a oedd unwaith yn fudiad arfog. Daeth y mudiad i ben ar 4 Mai 2018.[1]
Enghraifft o'r canlynol | mudiad terfysgol, sefydliad arfog, endid a fu |
---|---|
Idioleg | Cenedlaetholdeb Basgaidd, sosialaeth chwyldroadol, annibyniaeth, separatism, Abertzale left |
Daeth i ben | 3 Mai 2018 |
Gwlad | Sbaen |
Dechrau/Sefydlu | 31 Gorffennaf 1959 |
Rhagflaenwyd gan | Ekin, ETApm (VIII) |
Yn cynnwys | Terrorist of ETA |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am y seithfed llythyren yn yr wyddor Roeg gweler Eta (llythyren)
Sefydlwyd ETA yn 1959 fel mudiad oedd yn anelu at ddiogelu traddodiadau Basgaidd; yn y cyfnod hwn gwaharddiad llwyr ar unrhyw fynegiant o genedligrwydd Basgaidd, gyda Francisco Franco a'i gyfundref unbeniaethol. Yn raddol, datblygodd y mudiad yn fudiad arfog a frwydrai dros annibyniaeth y wlad, gydag ideoleg sosialaidd i ddechrau a Marcsaidd-Leninaidd yn ddiweddarach. Daeth ETA i amlygrwydd pan laddasant y Llynghesydd Luis Carrero Blanco, oedd wedi ei nodi fel olynydd Franco yn 1973. Cynrychiolwyd adain wleidyddol y mudiad gan blaid Batasuna, a whaharddwyd gan Sbaen yn 2003 gan eu bod (yn ôl Sbaen) yn codi arian tuag at ETA.
Cyhoeddodd y mudiad gadoediad yn gynnar yn 2006, a dechreuwyd trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen, ond daeth y rhain i ben wedi i aelodau o ETA ffrwydro bom ym maes awyr Barajas, Madrid yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn 2011, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch Aiete, ac yn dilyn hynny, cyhoeddodd ETA eu bod yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch arfog unwaith ac am byth. Daeth y broses dad-arfogi i ben ar 8 Ebrill 2017.[2]
Mewn ffuglen
golyguMae aelodau o ETA yn ymddangos yn y nofel Cuddwas gan Gareth Miles.[3]
Dolenni allanol
golygu- ↑ naziogintza.eus; adalwyd 8 Mai 2018.
- ↑ Esnaola, Enekoitz (2017). Luhuso. ETAren armagabetze zibilaren kontakizuna. Elkar. ISBN 978-84-9027-793-5.
- ↑ Miles, Gareth (2015). Cuddwas. Cymru: Y Lolfa. ISBN 9781784612054.