Josh Griffiths
Rhedwr marathon o Gymru o Orslas yw Joshua "Josh" Griffiths (ganwyd 3 Tachwedd 1993).
Josh Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1993 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | rhedwr pellter-hir |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Gorffennodd yn 13eg ym Marathon Llundain 2017 pan oedd yn fyfyriwr. Hwn oedd ei marathon cyntaf. Roedd y Prydeiniwr cyntaf i orffen, mewn amser o 2:14:49. Enillodd ei berfformiad annisgwyl le iddo ym Mhencampwriaethau'r Byd 2017, lle gorffennodd yn safle 39, gydag amser o 2:20:06.[1] Cystadlodd Griffiths ym Mhencampwriaethau'r Byd 2022. Gorffennodd yn safle 49, gydag amser o 2:17:37.[2]
Mae Griffiths yn byw yng nghartref ei deulu yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.[3] Astudiodd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a graddiodd gyda gradd meistr mewn hyfforddi chwaraeon ym mis Gorffennaf 2017.[4][3] Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "London Marathon 2017: Club runner Josh Griffiths finishes as fastest Briton". BBC Sport (yn Saesneg). 23 Ebrill 2017. Cyrchwyd 3 Mai 2017.
- ↑ "Marathon Men − Final − Statlist" (PDF) (yn Saesneg). International Association of Athletics Federations. 17 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2022.
- ↑ 3.0 3.1 Bloom, Ben (6 August 2017). "Josh Griffiths, student who stunned London Marathon field, on low key preparations for big stage". telegraph.co.uk. Cyrchwyd 13 Awst 2017.
- ↑ Bloom, Ben (29 Ebrill 2017). "Britain's top finisher at London Marathon Josh Griffiths on how his life has been turned upside down". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2017.
- ↑ Adam Hughes (24 Chwefror 2022). "Josh Griffiths sets World Championship standard time". South Wales Argus. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2022.