Ysgol Dyffryn Aman

ysgol gyfun yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Ysgol ddwyieithog yw Ysgol Dyffryn Aman a chanddi VI Dosbarth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg).

Ysgol Dyffryn Aman
Arwyddair Parched Pob Byw ei orchwyl
Sefydlwyd 1928
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr. D. Stephen Perks
Lleoliad Stryd Marged, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA18 2NW
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Staff 100+
Disgyblion 1698
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Amanwy (Melyn), Llwyd (Glas), Nantlais (Gwyrdd), Watcyn (Coch)
Lliwiau Gwyrdd Tywyll a du
Gwefan http://www.ammanvalley.amdro.org.uk/Cymraeg/Pages/default.aspx

Cyflwyniad

golygu

Mae ganddi oddeutu 1700 o fyfyrwyr. Lleolwyd ar Stryd Marged, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin yng Nghymru.[1] Mae'n ysgol bob rhyw heb iddi unrhyw gysylltiad crefyddol penodedig.

Lleolwyd yng ngogledd y dref wrth droed y Mynydd Du ac mae'r dref ychydig filltiroedd i ddiwedd yr M4.

Roedd yr ysgol yn ysgol ramadeg ac yn un o ddwy ysgol uwchradd yn y dref cyn 1970. Ond fe unwyd y ddwy ysgol ar yr un safle, ac felly ceir Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Cafwyd enw ddwyieithog ar yr ysgol newydd, Ysgol Dyffryn Aman - Amman Valley School, ond fe bleidleisiodd Llywodraethwyr yr ysgol yn unfrydol o blaid newid yr enw i enw uniaith Gymraeg yn 2011 yn sgil diwygio ysgolion Uwchradd Dinefwr. Bydd yr ysgol o hyn allan yn cael ei hadnabod fel Ysgol Dyffryn Aman yn unig ar bob ffurflen swyddogol, pob arwydd a phob dogfen.

Ymosodiad trywanu, 2024

golygu

Ar 24 Ebrill 2024, rhoddwyd yr ysgol dan glo ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu mewn ymosodiad trywanu. Arestiwyd un person gan Heddlu Dyfed-Powys mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac anfonwyd dau ambiwlans awyr ac ambiwlans i'r lleoliad am 11:30yb. Rhyddhawyd disgyblion yr ysgol am 3:20yp i'w rhieni, llawer ohonynt wedi bod yn aros y tu allan i'r ysgol.[2][3]

Ysgrifennodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Rishi Sunak a Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething ar Twitter eu bod wedi cael “sioc” o glywed y newyddion gan diolch i’r gwasanaethau brys a fynychodd y lleoliad. Dywedodd cyn-fyfyriwr a chyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod e "Byth wedi dychmygu hyn yn digwydd yn Rhydaman" 'a bod ei "feddwl, fel y gweddill ohonom, gyda chymuned yr ysgol".[2]

Cyn-ddisgyblion

golygu

Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Welsh Assembly: Subject Index: Education : School Performance : Home". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-03-01. Cyrchwyd 2011-09-19.
  2. 2.0 2.1 "Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio". newyddion.s4c.cymru. 2024-04-24. Cyrchwyd 2024-04-24.
  3. "Arestio merch ar amheuaeth o geisio llofruddio mewn ysgol". BBC Cymru Fyw. 2024-04-24. Cyrchwyd 2024-04-24.

Dolenni allanol

golygu