Joshua Hughes
Clerigwr o Gymro oedd Joshua Hughes (7 Hydref 1807 – 21 Ionawr 1889), a ddaeth yn Esgob Llanelwy o 1870 hyd ei farwolaeth.
Joshua Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1807 |
Bu farw | 21 Ionawr 1889 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Plant | Thomas McKenny Hughes, Joshua Pritchard Hughes |
Ganed Hughes yn Nanhyfer, Sir Benfro ac addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Aberteifi ac Ystradmeurig, yna aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr. Wedi iddo gael ei ordeinio, bu'n offeiriad yn Aberystwyth ac Abergwili.
Yn 1870, roedd W. E. Gladstone yn chwilio am Esgob newydd i Lanelwy, ac yn awyddus i sicrhau fod yr esgob newydd ym medru siarad Cymraeg. Ar gyngor Connop Thirlwall, dewiswyd Hughes. Ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn Esgob Llanelwy ers 1727. Gwnaeth lawer i hybu'r iaith Gymraeg yn yr eglwys, gan sicrhau fod offeiriaid oedd yn medru Cymraeg yn cael eui hapwyntio i blwyfi Cymraeg eu hiaith. Roedd yn gefnogwr brwd i'r symudiad i sefydlu Prifysgol Cymru.
Yn Awst 1888 tarawyd ef gan barlys tra ar ei wyliau yn Crieff yn yr Alban. Bu farw ar 21 Ionawr y flwyddyn ddilynol, a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn ddiweddarach daeth un o'i feibion, Joshua Pritchard Hughes, yn Esgob Llandaf.