Llanllieni

tref yn Swydd Henffordd, Lloegr

Tref hanesyddol yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llanllieni (Saesneg: Leominster).[1] Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Henffordd i'r de a Llwydlo i'r gogledd, ar groesffordd ffyrdd yr A49 a'r A44.

Llanllieni
Leominster Priory.jpg
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.23°N 2.73°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000800 Edit this on Wikidata
Cod OSSO496591 Edit this on Wikidata
Cod postHR6 Edit this on Wikidata
Tafarn The Three Horseshoes, Llanllieni, sy'n nodweddiadol o nifer o'r hen adeiladau sy'n goroesi yn y dref

Saif y dref mewn dyffryn ar lan yr Afon Llugwy. Am ganrifoedd bu'n ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân gyda llawer o gynnyrch gwlân canolbarth Cymru, o'r 13g ymlaen, yn mynd yno i gael ei brosesu. Mae'r wlad o gwmpas yn enwog am ei berllanau afalau seidr. Ceir nifer o dai hanesyddol yn y dref gan gynnwys Eglwys y Priordy, adeilad Normanaidd sy'n dyddio i ddechrau'r 12g.

HanesGolygu

Yn ôl cofnod yng Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, arweiniodd Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd, gyrch ar Lanllieni yn haf 1052 a arweiniodd at Frwydr Llanllieni, rhwng y Cymry a byddin o Saeson a Normaniaid. Cafodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol.

Chwech milltir i'r gogledd-orllewin o'r dref ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror 1461, un o'r brwydrau pwysicaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Collodd y Lancastriaid y dydd a ffoes Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur yn ôl i Sir Benfro ac i alltudiaeth yn Llydaw.

GefeilldrefiGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 8 Medi 2020

Dolenni allanolGolygu