D. Densil Morgan

ysgolhaig Gymraeg

Mae'r Athro Dafydd Densil Morgan DPhil DD FLSW wedi bod yn Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, er 2010 ac yn Brofost Campws Llambed er 2011.[angen ffynhonnell] Cyn hynny bu'n aelod o Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, Bangor pan gafodd ei benodi yn 1988 yn ddarlithydd mewn Cristionogaeth Gyfoes. Tra ym Mangor, bu'n Ddeon y Celfyddydau, Pennaeth ei Ysgol ac yn Bennaeth ar y Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau. Dyfarnwyd cadair bersonol iddo yn 2004 a chyn hynny roedd yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ddarllenydd. Graddiodd o Fangor yn 1979 ac fe aeth i astudio am radd D Phil yng Ngholeg Regent's Park, Rhydychen cyn mynd ymlaen i weinidogaethu yng nghapeli'r Bedyddwyr yn ardal Pen-y-groes, Llanelli am chwe mlynedd. Yn 2006 dyfarnwyd iddo radd DD gan Brifysgol Cymru am ei waith cyhoeddedig. Etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011. Ef yw golygydd presennol Y Traethodydd.

D. Densil Morgan
Ganwyd1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Diwinyddiaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ei ddiddordeb ymchwil gwreiddiol oedd Ymneilltuaeth Cymru yn y 18g ond wedi dychwelyd i Fangor yn 1988 canolbwyntiodd ar Hanes a Syniadaeth Gristnogol yn yr 20g. Gellir casglu fod D. Densil Morgan yn ddiwinydd neo-uniongred yn nhraddodiad y diwinydd o'r Swistir, Karl Barth. Cydnabu yn rhagair ei gyfrol 'Cedyrn Canrif' (2001)[1] ei fod yn ysgrifennu o safbwynt arbennig. O safbwynt 'Uniongred clasurol yr eglwys yn ôl credoau Nicea a Chalcedon fel y'i ailfynegwyd gan Ddiwygwyr Protestanaidd yr 16g a'i ddehongli o'r newydd i'n cyfnod ni gan Karl Barth.' Yng Nghymru felly gellid ei leoli yn llinach Awstinaidd R. Tudur Jones rhagor na llinach Belagaidd Pennar Davies.

Cyhoeddodd gyfrol ar Karl Barth yng nghyfres 'Y Meddwl Modern' (1992)[2] a chasglodd ynghyd ysgrifau J. E. Daniel, disgybl disgleiriaf Barth yng Nghymru, a lluniodd ragymadrdodd iddynt yn y gyfrol 'Torri'r Seiliau Sicr' (1993). Yn fwy diweddar cyhoeddodd arweiniad Saesneg i waith Barth yng nghyfres yr SPCK (2010).[3]

Yn ogystal a'i ddiddordeb yn Barth, cyhoeddodd ar hanes Calfiniaeth yng Nghymru yn cynnwys cyfrolau ar y diwinydd R. S. Thomas (Abercynon), Lewis Edwards o'r Bala ac Edward Matthews Ewenni.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Morgan, Densil (Tachwedd 2011), Cedyrn Canrif: Ysgrifau Ar Grefydd a Chymdeithas Yng Nghymru Yn Yr Ugeinfed Ganrif, Gwasg Prifysgol Cymru, ISBN 0708317200
  2. Morgan, Densil (1992), Barth, Dinbych: Gwasg Gee, ISBN 9780000675477
  3. Morgan, Densil (13 Mai 2011), The SPCK Introduction to Karl Barth, SPCK Publishing (April 2010), ISBN 9780281060450