Juan Domingo Perón
Etholwyd Juan Domingo Perón (8 Hydref 1895 – 1 Gorffennaf 1974) yn Arlywydd yr Ariannin dair gwaith. Ef oedd sylfaenydd Peroniaeth a'r blaid sy'n arddel yr ideoleg honno, y Partido Justicialista.
Juan Domingo Perón | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Juan Domingo Perón ![]() 8 Hydref 1895 ![]() Lobos ![]() |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1974 ![]() o ffibriliad fentriglaidd ![]() Quinta presidencial de Olivos ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Ariannin ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, gwleidydd ![]() |
Swydd | President of Argentina, President of Argentina ![]() |
Plaid Wleidyddol | Partido Justicialista ![]() |
Tad | Mario Tomás Perón ![]() |
Mam | Juana Sosa Toledo ![]() |
Priod | Aurelia Gabriela Tizón de Perón, Eva Perón, Isabel Martínez de Perón ![]() |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn, Grand Cross of the Aeronautical Merit (Spain) - White Decoration ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed Perón yn Lobos, Talaith Buenos Aires. Addysgwyd ef yn ninas Buenos Aires, ac aeth i'r Coleg Milwrol yn 1910, gan raddio yn 1916. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores María Eva Duarte (1919 – 1952) ar 22 Hydref 1945. Roedd Evita fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.
Etholwyd ef yn Arlywydd am y tro cyntaf ar 24 Chwefror 1946. Ar ddiwedd ei dymor cyntaf, ail-etholwyd ef yn etholiad 11 Tachwedd 1951. Bu farw Eva Perón ar 26 Gorffennaf 1952. Y tro hwn, ni allodd Perón gwblhau ei dymor, oherwydd diswyddwyd ef yn dilyn coup milwrol ar 16 Medi 1955. Bu mewn alltudiaeth am 18 mlynedd, nes dychwelyd a chael ei ethol yn Arlywydd am y trydydd tro ar 23 Medi 1973.
Bu farw yn ystod ei dymor fel Arlywydd ar 1 Gorffennaf 1974, ac olynwyd ef gan ei weddw, ei drydedd wraig María Estela Martínez de Perón, oedd wedi ei hethol fel is-arlywydd yn 1973.