Partido Justicialista
Plaid wleidyddol yn yr Ariannin yw'r Partido Justicialista (PJ) a sefydlwyd ar ffurf y Blaid Beronaidd ym 1946. Bu mewn grym o 1946 i 1955, 1973 i 1976, 1989 i 1999, 2001 i 2011, ac ers 2019.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Peronism, Poblyddiaeth, labourism, cenedlaetholdeb |
Label brodorol | Partido Justicialista |
Dechrau/Sefydlu | 21 Tachwedd 1946 |
Sylfaenydd | Juan Perón |
Aelod o'r canlynol | Centrist Democrat International, Permanent Conference of Political Parties of Latin America and the Caribbean |
Pencadlys | Buenos Aires |
Enw brodorol | Partido Justicialista |
Gwladwriaeth | yr Ariannin |
Gwefan | https://pj.org.ar |
Gwreiddiau'r blaid oedd y glymblaid a ddaeth â Juan Domingo Perón a'i gydymgeisydd Hortensio Quijano i rym ym 1946: y Blaid Lafur (Partido Laborista; 1945–47), a enillodd yr etholiad arlywyddol; anghydffurfwyr cenedlaetholgar ifainc o'r Unión Cívica Radical Renovadora, dan yr enw Unión Cívica Radical Junta Renovadora (1945–47); a cheidwadwyr y Centros Independientes (1945–47). Wedi'r etholiad, cyfunwyd yr ymbleidiau hyn gan Perón dan enw Partido Único de la Revolución (Unig Blaid y Chwyldro), ond gan fod ensyniad totalitaraidd i'r enw hwnnw newidiwyd i'r Partido Peronista. Yn ystod dau dymor cyntaf yr Arlywydd Perón (1946–55), bu'r blaid yn beiriant etholiadol ac yn gyfrwng i nawddogaeth. Strwythur hierarchaidd oedd ganddi, a Perón yn arweinydd ar Uwch Gyngor, ac oddi tanynt rhwydweithiau ar gyfer y taleithiau, swyddi, cymdogaethau, a gweithleoedd. Bu perthynas glos rhwng y Peroniaid a Chydffederasiwn Cyffredinol y Gweithwyr, ac ym 1949 sefydlwyd y Partido Peronista Femenino i ferched, dan arweiniad y Brif Foneddiges Eva Perón. Bu pwyslais ar ddisgyblaeth bleidiol, a threfnwyd ysgol i hyfforddi arweinwyr y dyfodol.[1]
Gwaharddwyd y blaid yn sgil dymchwel Perón yn y Revolución Libertadora ym 1955. Sefydlwyd yr Unión Popular fel plaid wrth gefn i'r Peroniaid gan Juan Atilio Bramuglia, cyn-Weinidog Tramor dan lywodraeth Perón, yn Rhagfyr 1955. Yn y cyfnod hwn, pan oedd Juan Perón yn alltud, arweiniwyd y blaid gan undebwyr llafur megis Augusto Vandor. Erbyn 1966 bu'r Unión Popular dan reolaeth y neo-Beroniaid, a geisiant gyfreithloni eu hachos drwy ymwrthod ag enw Perón. Cafodd y rheiny eu herio gan y rhai oedd yn deyrngar i Perón, a gofrestrwyd dan enw'r Partido Justicialista ym 1971. Bathwyd y term justicialismo, sydd yn gyfystyr â Pheroniaeth, gan Juan Perón ei hun i gyfeirio at ei ideoleg o gyfiawnder cymdeithasol.[1] Mudiad syncretaidd poblyddol ydyw sydd yn cyfuno llafuriaeth, y wladwriaeth gorfforaethol, a chenedlaetholdeb.
Parhaodd y rhwyg rhwng y neo-Beroniaid a'r Peroniaid uniongred nes i Juan Perón ddychwelyd ym 1973. Yn sgil marwolaeth Perón ym 1974, gwaethygodd yr ymgecru rhwng y ceidwadwyr a'r radicalwyr, a sefydlwyd y Partido Peronista Auténtico gan yr adain chwith. Gwaharddwyd pob plaid wleidyddol wedi i'r jwnta filwrol gipio grym ym 1976. Yn sgil cwymp y jwnta a'r adferiad democrataidd ym 1983, cafodd y justicialistas eu beio gan nifer o etholwyr am gamlywodraethu'r wlad yn y cyfnod 1973–76 a galluogi'r cadfridogion i gipio grym.[1] Collodd y Partido Justicialista yr etholiad arlywyddol i'r Unión Cívica Radical ym 1983.
Dychwelodd y Partido Justicialista i rym ym 1989 dan yr Arlywydd Carlos Menem, a fu'n llywodraethu'r Ariannin nes 1999. Ers y 2000au bu'r Partido Justicialista dan reolaeth carfan y kirchneristas, yr arlywyddion Néstor Kirchner (2003–07), Cristina Fernández de Kirchner (2007–15), ac Alberto Fernández (ers 2019).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Paul H. Lewis, "Justicialist Party" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Mawrth 2021.