Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno (16 Mai 19177 Ionawr 1986) a ystyrir yn un o lenorion gwychaf America Ladin yn yr 20g, er iddo ond gyhoeddi dau lyfr yn ystod ei oes: y gyfrol o straeon El llano en llamas (1953) a'r nofel Pedro Páramo (1955).

Juan Rulfo
Juan Rulfo
GanwydJuan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno Edit this on Wikidata
16 Mai 1917 Edit this on Wikidata
Sayula Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, ffotograffydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Burning Plain and Other Stories, Pedro Páramo Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Faulkner Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Xavier Villaurrutia, Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Gwobr Alfaguara, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.elem.mx/autor/datos/970 Edit this on Wikidata

Ganed yn Jalisco i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Yn ystod ei blentyndod yng nghefn gwlad Gorllewin Mecsico roedd yn dyst i Ryfel Cristero (1926–29). Collodd ei deulu y drwch o'i ffortiwn o ganlyniad i drais a therfysg y cyfnod. Symudodd Rulfo a'i deulu i Ddinas Mecsico ym 1933 a gweithiodd Juan i gwmni rwber. Yn ddiweddarach cafodd waith yn ysgrifennu sgriptiau ffilm. Roedd yn hoff iawn o waith y nofelydd Americanaidd William Faulkner.[1]

Ysgrifennodd sawl stori fer i'r cylchgrawn llenyddol Pan, a chawsant eu casglu, gyda straeon eraill, yn El llano en llamas. Maent yn ymwneud â thrais ac anfoesoldeb yng nghefn gwlad gan ddefnyddio technegau traethiadol newydd megis llif ymwybod, ôl-fflachiau, a safbwyntiau cyfnewidiol. Enghraifft cynnar o'r nofel realaidd hudol yw Pedro Páramo, sydd yn archwilio cwymp cacique (penadur) mewn byd uffernol a drigiannir gan y meirw.

Penodwyd yn gyfarwyddwr adran olygyddol y Sefydliad Cenedlaethol dros Astudiaethau Brodorol, a bu'n cynghori awduron ifainc yng Nghanolfan Llenorion Mecsico. Bu farw Juan Rulfo yn Ninas Mecsico yn 68 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Juan Rulfo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2021.