Gwleidydd o Awstralia yw Julia Eileen Gillard (ganwyd 29 Medi 1961), sy'n aelod o Blaid Lafur Awstralia. Rhwng 24 Mehefin 2010 a 26 Mehefin 2013 roedd yn Brif Weinidog Awstralia. Cyn hynny, bu'n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.

Julia Gillard
GanwydJulia Eileen Gillard Edit this on Wikidata
29 Medi 1961 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgBagloriaeth yn y Gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Adelaide
  • Melbourne Law School
  • Unley High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Awstralia, Dirprwy Brif Weinidog Awstralia, Minister for Education, Minister for Employment and Workplace Relations, Gweinidog dros Gymdeithas Gynhwysol (Awstralia), Rheolwr Busnes yr Wrthblaid yn y Tŷ, Cadeirydd-mewn-Swydd y Gymanwlad, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Slater and Gordon Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Awstralia Edit this on Wikidata
PartnerTim Mathieson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 100 Merch y BBC, Cydymaith Urdd Awstralia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://juliagillard.com.au/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei geni yn y Barri, yng Nghymru, ym 1961, ond symudodd ei theulu i Adelaide, De Awstralia ym 1966.

Mae hi'n weriniaethwraig o argyhoeddiad. Yn Awst 2010, yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol, cyhoeddodd y dylai Awstralia droi'n weriniaeth ar ôl marwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.[1]

Cyfeiriadau

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.