Julio Cortázar
Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Julio Cortázar, a ysgrifennai hefyd dan y ffugenw Julio Denis (26 Awst 1914 – 12 Chwefror 1984). Mae ei waith yn nodedig am ei dechnegau arbrofol a'i themâu dirfodol. Roedd yn un o brif lenorion y boom latinoamericano ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn llên yr Ariannin yn yr 20g.
Julio Cortázar | |
---|---|
Ffugenw | Julio Denis |
Llais | 05 JULIO CORTAZAR.ogg |
Ganwyd | 26 Awst 1914 Dinas Brwsel |
Bu farw | 12 Chwefror 1984 Paris, 10fed arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin, Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, sgriptiwr, nofelydd, awdur ysgrifau, cyfieithydd, bardd, llenor, academydd, dramodydd, beirniad llenyddol |
Adnabyddus am | Hopscotch |
Arddull | realaeth hudol, barddoniaeth |
Prif ddylanwad | Jean-Paul Sartre |
Mudiad | Swrealaeth |
Priod | Ugnė Karvelis, Aurora Bernárdez, Carol Dunlop |
Gwobr/au | Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, honorary doctor of the University of Poitiers |
llofnod | |
Ganwyd yn Ixelles, un o fwrdeistrefi Brwsel, Gwlad Belg, yn fab i rieni o'r Ariannin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y teulu yn ôl i'r Ariannin ac yno cafodd ei addysg. Gweithiodd fel athro a chyfieithydd. Ysgrifennodd ei nofelau cyntaf yn 1949 (Divertimento) a 1950 (El Examen), ond ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl ei farwolaeth. Roedd Cortázar yn anfodlon â llywodraeth Juan Perón a sefyllfa'r dosbarth canol yn yr Ariannin, ac ymfudodd felly i Baris, Ffrainc, yn 1951.
Yn 1951 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, Bestiario, ac yn ddiweddarach casglwyd rhagor o'i ffuglen yn Final del juego (1956), Las armas secretas (1958), Historias de cronopios y de famas (1962), Todos los fuegos el fuego (1966), Un tal Lucas (1979), a Queremos tanto a Glenda, y otros relatos (1981). Ystyrir yr wrthnofel Rayuela (1963) yn gampwaith Cortázar. Cyhoeddodd dair nofel arall yn ystod ei oes: Los premios (1960), 62/modelo para armar (1968), a Libro de Manuel (1973). Ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, dramâu, a sawl cyfrol o ysgrifau.
Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1981.[1] Bu farw ym Mharis yn 69 oed i drawiad ar y galon, wedi iddo ddioddef o liwcemia am nifer o fisoedd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Julio Cortázar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) C. Gerald Fraser, "Julio Cortazar dies in Paris; Argentine writer of fiction", The New York Times (13 Chwefror 1984). Adalwyd ar 10 Ebrill 2019.