Juluan Maner
Offeiriad a geiriadurwr a adwaenir fel "Apostol Llydaw" oedd Juluan Maner (Ffrangeg: Julien Maunoir) (1 Hydref 1606 - 28 Ionawr 1683).
Juluan Maner | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1606 Sant-Jord-Restembaod |
Bu farw | 28 Ionawr 1683 Plevin |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Dydd gŵyl | 29 Ionawr, 2 Gorffennaf |
Ganed ef yn Saint-Georges-de-Reintembault yn Ille-et-Vilaine (Ffrainc). Astudiodd yng ngholeg Cymdeithas yr Iesu yn Roazhon o 1621 ymlaen, a gwnaeth ei addunedau cyntaf yn 1627. Yn 1630, ymwelwyd ag ef gan Dom Michel Le Nobletz, a ofynnodd iddo ei olynu fel cenhadwr i ardaloedd cefn gwlad Llydaw. Dechreuodd ddysgu Llydaweg, a dechreuodd ei genhadaeth yn Douarnenez yn 1641. Treuliodd 43 mlynedd yn teithio trwy Lydaw yn efengylu.
Cyhoeddiadau
golygu- Le Sacré-Collège de Jésus (catéchisme yn Llydaweg, gyda geiriadur a gramadeg), 1659
- La Vie de Michel Le Nobletz
- Vie de Père Bernard
- Missions en bretagne,(1631-1650)
- Les Dictionnaires Français-Breton Et Breton-Français Du R - P - Julien Maunoir, 1659