Justin Haythe
Mae Justin Haythe (ganed 16 Medi 1973) yn nofelydd, sgriptiwr ac ysgrifennydd straeon byrion Americanaidd.
Justin Haythe | |
---|---|
Ganwyd | 16 Medi 1973, 1973 Llundain |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, nofelydd |
Cafodd ei eni yn Llundain a mynychodd Ysgol Americanaidd Llundain a Choleg Middlebury. Enwebwyd ei nofel gyntaf, The Honeymoon am Wobr Booker yn 2004. Ef ysgrifennodd The Clearing hefyd, a gyfarwyddwyd gan Pieter Jan Brugge, ac a serennodd Helen Mirren a Robert Redford. Rhyddhawyd ei addasiad o Revolutionary Road ym mis Rhagfyr 2008. Mae ef hefyd yn ysgrifennydd ac uwch-gynhyrchydd Snitch, sydd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.
Mae ef bellach yn byw yn Ninas Efrog Newydd, UDA.