Kailao
Dawns ryfel Tonga ond yn wreiddiol o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna yw'r kailao.[1] Math o kailao yw'r Sipi Tau sef y ddawns ryfel a berfformir cyn gemau Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Tonga. Bydd nifer o bobl yn fwy cyfarwydd gyda'r trefm "Sipi Tau".[2]
Hanes
golyguMae'r kailao fel arfer yn cael ei berfformio mewn seremonïau cyhoeddus a phreifat. Mae dynion, sy'n gwisgo ffyn steil o'r enw kailao pate, yn dawnsio mewn arddull ffyrnig sy'n efelychu ymladd, ynghyd â drym neu offerynnau taro metal sy'n gosod y tempo. Yn wahanol i ddawnsfeydd Tongaidd eraill, perfformir kailao heb ganu. Arweinydd y ddawns sy'n pennu'r dilyniant o symudiadau i'w perfformio gan y grŵp, sy'n rhoi enw'r dilyniant a phryd i ddechrau. Mae'r ddawns yn dangos disgyblaeth y dawnswyr, yr ufudd-dod a'u medr gyda'u harf.
Yn yr un modd, gelwir dawns debyg o Rotuma, sy'n deillio o ddawns Wallis, yn ka'loa.
Sipi Tau
golyguY Sipi tau yw'r enw ar y ddawns a berfformir gan dîm rygbi'r undeb Tonga a thîm rygbi'r gynghrair cyn pob gêm,[3] ac mae'n fath o kailao. Ysgrifennwyd y gân gan y Brenin Taufa'ahau Tupou IV ym 1994, ond mae ei tharddiad yn hŷn.
Doedd dawns ryfel ddim yn rhan o draddodiad Tonga cyn 19g. Mewn gwirionedd, ystyriwyd bod siarad yn arwydd o wendid yn ystod brwydr. Fodd bynnag, yn 19g, cyflwynwyd dawns ryfel yn Tonga o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna, a fabwysiadwyd yn gyflym gan Tonga. Perfformiwyd gwahanol fathau o sipi tau gan dimau Tonga ond nid yw'n hysbys pryd y cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf wrth chwarae rygbi. Cyfansoddwyd y fersiwn ddiweddaraf er anrhydedd i daith lwyddiannus yn Seland Newydd ym 1994.[4].
Traddodiad y Môr Tawel
golyguMae'r Cibi yn rhan o draddodiad o ddawnsiau rhyfel sydd wedi eu gwreiddio yn niwylliant gynhenid ynysoedd y Môr Tawel, gyda'r enwocaf i dramorwyr yn ffurf dawns yr haka gan bobl Maori ond bellach hefyd, a fabwysiadir gan holl drigolion Seland Newydd. Fel yrhaka, mae'r cibi wedi dod i amlygrwydd byd-eang oherwydd ei pherfformiad cyn gemau rygbi'r undeb a champau eraill. Ceir dawnsfeydd tebyg gan Samoa (Siva Tau) a'r Cibi o ynysoedd Ffiji.
Geiriau'r Sipi Tau Cyfredol
golyguDyma'r geiriau i'r Sipi Tau cyfredol, ers 2011.[5]
|
Cyfieithiad Gymraeggolygu
|