Mae Tonga (yn swyddogol Teyrnas Tonga; yn y Tongaeg: Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ym Mholynesia, sy'n rhan o Oceania. Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'r Cefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, yn ôl Johnson's Tribune, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494,[1] gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sef Tongatapu. O'i hamgylch mae Fiji a Wallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin, Samoa i'r gogledd-ddwyrain, Caledonia Newydd (Ffrainc) a Fanwatu i'r gorllewin, Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 cilometr (1,100 mi) o Ynys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod o Gymanwlad Lloegr.

Tonga
Brenhiniaeth Tonga
Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga
ArwyddairDuw a Tonga yw fy etifeddiaeth Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl Edit this on Wikidata
Duration: 1 seconds.
PrifddinasNuku'alofa Edit this on Wikidata
Poblogaeth108,020 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd4 Mehefin 1970 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr)
AnthemAnthem Brenin Ynysoedd Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPohiva Tuʻiʻonetoa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+13:00, Tongatapu'r Môr Tawel Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAuckland, Owariasahi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tongan, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPolynesia Edit this on Wikidata
GwladTonga Edit this on Wikidata
Arwynebedd748.506563 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.58778°S 174.81028°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Tonga Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTupou VI Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPohiva Tuʻiʻonetoa Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$469.2 million Edit this on Wikidata
ArianTongan paʻanga Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.722 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.745 Edit this on Wikidata

Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith adiwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf, ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'r Môr Tawel, o rannau o Ynysoedd Solomon a'r cyfan o Caledonia Newydd a Ffiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau o Polynesia Ffrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y 13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.[2]

Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o dan Gytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga ei sofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadau deddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.

Etymoleg

golygu

Mewn llawer o ieithoedd Polynesaidd, gan gynnwys Tongeg, mae'r gair yn deillio o fakatonga, sy'n golygu 'tua'r de'.[3][4][5] Enwir yr archipelago hefyd gyda'r enw hwn oherwydd dyma'r grŵp mwyaf deheuol ymhlith grwpiau ynysoedd gorllewin Polynesia.[6] Mae'r gair tonga yn gytras â'r gair Hawäieg "kona", sy'n golygu "yr ochr lle chwytha'r gwynt", sef tarddiad yr enw ar gyfer Ardal Kona yn Hawaii.[7]

Hanes

golygu
 
Dyfodiad Abel Tasman i Tongatapu, 1643; darlun gan Isaack Gilsemans

Yn ôl mytholeg Tonganaidd, lluniodd y duw Maui grŵp o ynysoedd o'r cefnfor, gan ymddangos gyntaf yn Tongatapu, Ynysoedd Ha'apai a Vava'u, gan integreiddio i'r hyn a ddaeth yn Tonga heddiw.[8]

Roedd grŵp a siaraant yr ieithoedd Awstronesaidd yn gysylltiedig â'r hyn y mae archeolegwyr yn ei alw'n ddiwylliant Lapita. Roedd y grwp (neu'r bobl) yma i'w cael o Ynys Melanesia i Samoa, gan ehangu ymhellach a phreswylio yn Tonga rhwng 1500 a 1000 BC.[9] Mae ysgolheigion yn dal i ddadlau yn union pryd y setlwyd Tonga am y tro cyntaf, ond mae dyddio thoriwm diweddar yn cadarnhau bod gwladfawyr wedi cyrraedd y dref breswyl gynharaf y gwyddys amdani, Nukuleka, erbyn 888 CC, ± 8 mlynedd.[10] Rhannwyd hanes rhag-gyswllt Tonga trwy hanes llafar, a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Erbyn y 12g, roedd y Tonganiaid a brenin Tongan y Tui Tonga, wedi ennill enw da ar draws canol y Môr Tawel – o Niue, Samoa, Rotuma, Wallis a Futuna, Caledonia Newydd i Tikopia, gan arwain rhai haneswyr i sôn am Ymerodraeth Tonga yn Nhwi yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n hysbys bod rhyfeloedd cartref wedi digwydd yn Tonga yn y 15g a'r 17g.

Daeth pobl Tongan ar draws gwladychwyr Ewropeaidd am y tro cyntaf yn 1616, pan ymwelodd llong Iseldiraidd yr <i id="mwpQ">Eendracht</i>, dan arweiniad Willem Schouten, â'r ynysoedd gyda'r diben o fasnachu. Yn ddiweddarach, cyrhaeddodd fforwyr eraill o'r Iseldiroedd, gan gynnwys Jacob Le Maire (a ymwelodd ag ynys ogleddol Niuatoputapu); ac Abel Tasman (a ymwelodd â Tongatapu a Ha'apai) yn 1643. Ymhlith yr ymwelwyr Ewropeaidd nodedig diweddarach oedd James Cook, o Lynges Lloegr, a hynny yn 1773, 1774, a 1777; fforwyr Llynges Sbaen Francisco Mourelle de la Rúa yn 1781; Alessandro Malaspina yn 1793; y cenhadon cyntaf o Lundain yn 1797; a gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, y Parchedig Walter Lawry, yn 1822.

Daearyddiaeth

golygu
 
Map o Tonga

Wedi'i leoli yn Oceania, mae Tonga yn archipelago yn Ne'r Môr Tawel, yn union i'r de o Samoa a thua dwy ran o dair o'r ffordd o Hawai'i i Seland Newydd. Rhennir ei 171 o ynysoedd, yn dri phrif grŵp - Vava'u, Ha'apai, a Tongatapu - sy'n gorchuddio llinell gogledd-de 800 cilometr (500 mi) o hyd.

Mae'r ynys fwyaf, Tongatapu, lle mae prifddinas Nuku'alofa wedi'i lleoli, yn gorchuddio 257 cilometr sgwar (99 milltir sgwar). Yn ddaearegol, mae ynysoedd Tongan o ddau fath: mae gan y rhan fwyaf sylfaen galchfaen a ffurfiwyd o ffurfiannau cwrel wedi codi; mae eraill yn cynnwys calchfaen a orchuddiwyd gan sylfaen folcanig .

Hinsawdd

golygu

Mae gan Tonga hinsawdd fforest law drofannol gyda chyfnod cynnes rhwng Rhagfyr ac Ebrill, pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 32 °C (89.6 °F), a chyfnod oerach (Mai-Tachwedd), gyda thymheredd nad yw'n codi'n aml uwchlaw 27 °C (80.6 °F). Mae'r tymheredd a'r glawiad yn amrywio o 23 °C (73.4 °F) a 1,700 milimetr (67 modfedd) ar Tongatapu yn y de i 27 °C (80.6 °F) a 2,970 milimetr (117 modf) ar yr ynysoedd mwy gogleddol yn nes at y Cyhydedd.

Demograffeg

golygu

Grwpiau ethnig

golygu

 

Grwpiau Ethnig yn Tonga
Grwpiau Ethnig canran
Tonganiaid
  
97.03%
Rhannol o Tonga
  
0.79%
Tsieiniaid
  
0.73%
Fijiaid
  
0.3%
Europeaid
  
0.25%
Indo-Ffijiaid
  
0.12%
Other Pacific Islander
  
0.2%
Asiaid eraill
  
0.19%
Eraill
  
0.37%
Dim gwybodaeth
  
0.03%

Llyfryddiaeth

golygu
  • On the Edge of the Global: Modern Anxieties in a Pacific Island Nation (2011) by Niko Besnier. Stanford, CA: Stanford University Press, ISBN 978-0-8047-7406-2
  • Islanders of the South: Production, Kinship and Ideology in the Polynesian Kingdom of Tonga (1993) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press. ISBN 90 6718 058 0
  • Identity and Development: Tongan Culture, Agriculture, and the Perenniality of the Gift (2004) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press. ISBN 90 6718 215 X
  • Manifestations of Mana: Political Power and Divine Inspiration in Polynesia (2014) by Paul van der Grijp. Vienna and Berlin: LIT Verlag. ISBN 978-3-643-90496-6
  • Becoming Tongan: An Ethnography of Childhood by Helen Morton
  • Queen Salote of Tonga: The Story of an Era, 1900–65 by Elizabeth Wood-Ellem
  • Tradition Versus Democracy in the South Pacific: Fiji, Tonga and Western Samoa by Stephanie Lawson
  • Voyages: From Tongan Villages to American Suburbs Cathy A. Small
  • Friendly Islands: A History of Tonga (1977). Noel Rutherford. Melbourne: Oxford University Press. ISBN 0-19-550519-0
  • Tonga and the Tongans: Heritage and Identity (2007) Elizabeth Wood-Ellem. Alphington, Vic.: Tonga Research Association, ISBN 978-0-646-47466-3
  • Early Tonga: As the Explorers Saw it 1616–1810. (1987). Edwin N Ferdon. Tucson: University of Arizona Press; ISBN 0-8165-1026-1
  • The Art of Tonga (Ko e ngaahi'aati'o Tonga) by Keith St Cartmail. (1997) Honolulu : University of Hawai`i Press. ISBN 0-8248-1972-1
  • The Tonga Book by Paul. W. Dale
  • Tonga by James Siers

Bywyd gwyllt

golygu
  • Birds of Fiji, Tonga and Samoa by Dick Watling
  • A Guide to the Birds of Fiji and Western Polynesia: Including American Samoa, Niue, Samoa, Tokelau, Tonga, Tuvalu and Wallis and Futuna by Dick Watling
  • Guide to the Birds of the Kingdom of Tonga by Dick Watling

Teithlyfrau

golygu
  • Lonely Planet Guide: Samoan Islands and Tonga by Susannah Farfor and Paul Smitz
  • Moon Travel Guide: Samoa-Tonga by David Stanley
  • Martin Daly (2009). Tonga: A New Bibliography. University of Hawaii Press. ISBN 978-0-8248-3196-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2020. Cyrchwyd 18 October 2015.

Ffuglen

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tonga Population 2021 (Demographics, Maps, Graphs)". worldpopulationreview.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 October 2021. Cyrchwyd 28 October 2021.
  2. see writings of Ata of Kolovai in "O Tama a Aiga" by Morgan Tuimaleali'ifano; writings by Mahina, also coronation edition of Spasifik Magazine, "The Pacific Islands: An Encyclopedia," edited by Lal and Fortune, pp. 133–
  3. "Tonga". Merriam-Webster.com Dictionary, Merriam-Webster. Cyrchwyd 1 June 2022.
  4. Churchward, C.M. (1985) Tongan grammar, Oxford University Press, ISBN 0-908717-05-9
  5. "Tonga". The New Zealand Oxford Dictionary. Oxford University Press. 2005. doi:10.1093/acref/9780195584516.001.0001. ISBN 978-0-19-558451-6. Cyrchwyd 18 February 2022.
  6. "Search | English – Tongan Translator". www.tongantranslator.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2018. Cyrchwyd 2018-04-29.
  7. Jolliffe, Lee, gol. (2010). Coffee Culture, Destinations and Tourism. Channel View Publications. t. 112. ISBN 9781845411923.
  8. "Maui's Fish Hook". Tonga Time. 9 April 2013. Cyrchwyd 14 March 2023.
  9. Kirch, Patrick Vinton (1997) The Lapita Peoples, Wiley, ISBN 1-57718-036-4.
  10. Burley, David (2012). "High precision U/Th dating of first Polynesian settlement". PLOS ONE 7 (11): e48769. Bibcode 2012PLoSO...748769B. doi:10.1371/journal.pone.0048769. PMC 3492438. PMID 23144962. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3492438.