Siva Tau
Mae Mano Siva Tau yn ddawns ryfel Samoaidd, a berfformir gan dimau chwaraeon y Samoiaid cyn pob gêm.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2f/Samoan_Siva_Tau.jpg/220px-Samoan_Siva_Tau.jpg)
Arferai tîm rygbi cenedlaethol berfformio'r Maulu'ulu Moa traddodiadol ar daith. Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 1991, cyfansoddwyd siant rhyfel 'Manu', ystyriwyd ei fod yn fwy effeithiol wrth gynhyrfu'r chwaraewyr a'r dorf.[1]
Mae tîm cenedleaethol Samoa yn y gamp pêl-droed rheolau Awstralaidd yn perfformio’r Siva Tau yn ei ymddangosiadau yng Nghwpan Rhyngwladol.
Yn y gamp reslo broffesiynnol, yr "WWE", mae tîm ymladd The Usos, yn paentio eu hwynebau gyda arddull Samoaidd ac mae perfformio'r Siva Tau yn rhan o sioe wrth droedio a cychwyn yr ornest yn y cylch.[2]
Mae tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol, Toa Samoa, hefyd yn perfformio'r Siva Tau cyn pob gêm (gyda'r "Toa" yn disodli "Manu" yn y geiriau).
Masnach
golyguMae'r cysyniad o'r Siva Tau yn ddigon adnabyddus a phoblogaidd fel ei fod yn enw ar gwmni gwneud crysau a deunydd ffitrwydd a chwaeraeon gyda'r geiriau wedi eu hargraffu ar flaen y crys.[3]
Geiriau
golyguCeir gwahanol geiriau i'r Siva Tau gan amrywio gyda chwaeth a chyd-destun.
Arweinydd: Samoa! | Samoa! |
Tatou o e tau le taua! | Awn i ryfel! |
Tau e matua tau! | Ymladd yn ffyrnig! |
Fai ia mafai! | Gwaith i gyflawni! |
Le Manu! | Y Manu! |
Team: Sau ia! | Awn ni! |
Le Manu Samoa e ua malo ona fai o le faiva Le Manu Samoa e ua malo ona fai o le faiva |
Y Manu Samoa, boed i chi lwyddo yn eich cyrch Y Manu Samoa, boed i chi lwyddo yn eich cyrch |
Le Manu Samoa lenei ua ou sau | Y Manu Samoa dyma lle y daethom |
Leai se isi Manu oi le atu laulau | Does dim un (tîm) Manu unrhyw le |
Ua ou sau nei ma le mea atoa | Yma rwy wedi paratoi'n llawn |
O lou malosi ua atoatoa | Rwy yn anterth fy nerth |
Ia e faatafa ma e soso ese | Gwnewch le, symudwch o'r ffordd |
Leaga o lenei manu e uiga ese | Achos mae'r Manu yma'n unigryw |
Le Manu Samoa | Y Manu Samoa |
Le Manu Samoa | Y Manu Samoa |
Le Manu Samoa e o mai I Samoa | Mae'r Manu Samoa yn teyrnasu o Samoa |
Le Manu! | Y Manu! |
Gweler Hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.livingheritage.org.nz/Schools-Stories/History-of-the-Manu-Samoa/The-Siva-Tau
- ↑ Murphy, Ryan. "The Usos: Battle-ready". WWE. Cyrchwyd 27 March 2012.
- ↑ https://sivatau.com/