Kalâat el-Andalous
Tref a chymuned yng ngogledd Tiwnisia yw Kalâat el-Andalous. Fe'i lleolir yn nhalaith Ariana tua 45 km i'r gogledd o ddinas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia. Poblogaeth y gymuned: 15,313 (2004).
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ariana |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 37.0625°N 10.1183°E |
Cod post | 2022 |
Cyfeiria el-Andalous at y ffaith fod nifer o ffoaduriaid Mwslim o al-Andalus (de Sbaen), sef y Morisgiaid, wedi ffoi yma yn yr 17g. Gwelir eu hôl ym mhaensaernïaeth y dref, e.e. Mosg Cordoba, a enwir ar ôl Cordoba yn Andalucía. Ystyr enw'r dref yw "Dinas gaerog yr Andalwsiaid".
Llifa Afon Medjerda heibio i orllewin y ddinas. Mae'r tir yn ffrwythlon o'r herwydd ac amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant.
Yng nghyffiniau Kalâat el-Andalous ceir safle dinas hynafol Utica, a sefydlwyd gan y Ffeniciaid (gweler hefyd Carthago).