Ariana (talaith)
Talaith yng ngogledd Tiwnisia yw talaith Ariana. Mae'n gorwedd i'r gogledd o ddinas Tiwnis ar lan Môr y Canoldir. Ei phrifddinas yw Ariana, ar gwr deheuol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tiwnis Fwyaf.
Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Ariana |
Poblogaeth | 576,088 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 482 km² |
Cyfesurynnau | 36.8625°N 10.19556°E |
TN-12 | |
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tiwnis a Bizerte trwy'r dalaith. Oherwydd prinder dŵr, nid yw'r tir yn arbennig o ffrwythlon ond tyfir grawnfwydydd fel gwenith yn y meysydd mawr agored yng nghefn gwlad y dalaith, sy'n codi tua'r gorllewin a'r gogledd i rhagfryniau mynyddoedd y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir gogledd Tiwnisia i'r ffin ag Algeria, ger Tabarka.
Lleolir dinas Utique, safle dinas hynafol Utica, un o chwaer-ddinasoedd Carthago'r Ffeniciaid, yng nghwr gogledd-orllewinol Ariana.
Dinasoedd a threfi
golyguTaleithiau Tiwnisia | |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan |