Kate Forbes
Gwleidydd o'r Alban yw Kate Elizabeth Forbes (ganwyd 6 Ebrill 1990). Mae hi'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), ac yn Aelod o Senedd yr Alban (ASA) dros etholaeth Skye, Lochaber a Badenoch ers etholiad Senedd yr Alban yn 2016. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Economi rhwng 2020 a 2023.
Kate Forbes | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1990 Dingwall |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Member of the 5th Scottish Parliament, Member of the 6th Scottish Parliament, Cabinet Secretary for Finance and the Economy |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Cafodd Forbes ei geni yn Dingwall, ond cafodd ei magu yn India a’r Alban. Cafodd ei haddysg mewn ysgol iaith Gaeleg,[1] ac enillodd radd BA mewn hanes yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Wedyn enillodd MSc mewn hanes alltud a mudo o Brifysgol Caeredin. Priododd Alasdair "Ali" MacLennan yn 2021.[2]
Arweinyddiaeth yr SNP
golyguYn dilyn ymddiswyddiad Nicola Sturgeon fel arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, ym mis Chwefror 2023, safodd Forbes ar gyferyr arweinyddiaeth. Y ddau ymgeisydd arall oedd Humza Yousaf a enillodd ac Ash Regan.[3]
Er bod canmol i allu gweinyddu Forbes fel Gweinidog Cyllid roedd gwrthwynebiad i'w hagwedd mwy ceidwadol gan gynnwys gwrthwynebiad bersonol i briodas hoyw, hawliau trawrywedd ac erthyliad.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Kate Forbes". Scottish National Party (yn Saesneg). 5 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 February 2022. Cyrchwyd 8 February 2022.
- ↑ Maclennan, Scott (29 Gorffennaf 2021). "Exclusive Pictures: Dingwall MSP Kate Forbes gets married in her hometown". Ross-Shire Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2022. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Ethol Humza Yousaf yn arweinydd newydd SNP". Newyddion Cymru Fyw BBC. 27 Mawrth 2023.
- ↑ "Ymgyrch y tri i ennill arweinyddiaeth yr SNPar fi'n dod i ben". BBC Cymru Fyw. 26 Mawrth 2023.