Plaid Genedlaethol yr Alban

Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (Saesneg: Scottish National Party neu'r SNP, Gaeleg yr Alban: Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba neu'r PNA) yn blaid wleidyddol adain chwith-canol Albanaidd sy'n galw am annibyniaeth i'r Alban.[3][4] Sefydlwyd y blaid yn 1934, pum mlynedd wedi sefydlu Plaid Cymru, pan gyfunwyd 'Plaid Genedlaethol yr Alban' (Saesneg: National Party of Scotland neu'r NPS) a 'Phlaid yr Alban' (Saesneg: Scottish Party. John Swinney yw ei harweinydd cyfredol; hi hefyd yw Prif Weinidog yr Alban. Yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, hi yw'r drydedd blaid mwyaf ei haelodaeth yn y Deyrnas Gyfunol, a'r fwyaf yn yr Alban - pedair gwaith yn fwy na Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban a Rhyddfrydwyr yr Alban gyda'i gilydd.[5]

Plaid Genedlaethol yr Alban
Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba
Scottis Naitional Pairtie
ArweinyddJohn Swinney
Dirprwy ArweinyddKeith Brown
Arweinydd San SteffanAngus Robertson
Sefydlwyd1934 (1934)
Unwyd gydaPlaid Genedlaethol yr Alban
Plaid yr Alban
PencadlysGordon Lamb House
3 Jackson's Entry
Caeredin
EH8 8PJ
Asgell myfyrwyrFfederasiwn Myfyrwyr Cenedlaetholgar
Asgell yr ifancYoung Scots for Independence
Aelodaeth125,482 [1]
Cysylltiadau EwropeaiddEuropean Free Alliance
Grŵp yn Senedd EwropGwyrddion Ewrop (EFA)
LliwMelyn a du
Seddau'r Alban yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)
35 / 59
Seddau'r Alban yn Senedd Ewrop
2 / 6
Senedd yr Alban
62 / 129
Awdurdod Lleol yn yr Alban [2]
421 / 1,227
Gwefan
http://www.snp.org/

Cynrychiolwyd yr SNP yn San Steffan ers i Winnie Ewing ennill sedd etholaeth Hamilton dros yr SNP ym 1976, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru.[6] Pan agorodd drysau Llywodraeth yr Alban yn 1999, yr SNP oedd yr ail blaid gryfaf, a bu'n wrth-blaid am ddau dymor. Yn dilyn Etholiad yr Alban 2007, ffurfiodd Lywodraeth leiafrifol, ac yn 2011 roedd ganddi fwyafrif llethol, a ffurfiodd Lywodraeth yr Alban.[7] Yn 2015 roedd ganddi 105,000 o aelodau, 64 Aelod Llywodraeth yr Alban a 424 cynghorydd sir.[8] Yn 2015, roedd ganddi hefyd 56 allan o 59 Aelod Seneddol a dau aelod yn Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop ac yn eistedd gydag aelodau'r Cynghrair Ewropeaidd y Blaid Werdd.

Syniadaeth craidd

golygu

Mae ei syniadau gwleidyddol yn eitha tebyg i'r rhai Ewropeaidd ac yn gonglfaeni iddynt mae cymdeithas a democratiaeth. Ymhlith ei pholisiau y mae: priodas gyfunryw, gostwng oed pleidleisio i 16, diarfogi niwclear, gostwng trethi, dileu tlodi, codi tai fforddiadwy, addysg am ddim i bawb, gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear, buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, dileu treth hedfan a chodi cyflogau nyrsus.[9][10]

Arweinyddiaeth

golygu
 
John Swinney, Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Murrell, Peter. "Peter Murrell". Twitter. Twitter. Cyrchwyd 4 April 2015.
  2. "http://www.gwydir.demon.co.uk/uklocalgov/makeup.htm". Gwydir.demon.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 1 Hydref 2013. External link in |title= (help)
  3. Amir Abedi (2004). Anti-political Establishment Parties: A Comparative Analysis. Psychology Press. t. 72. ISBN 978-0-415-31961-4.
  4. Political Systems Of The World. Allied Publishers. t. 122. ISBN 978-81-7023-307-7.
  5. Sophie Warnes. "The Scottish National Party is now the third largest party in the UK". mirror.
  6. Heisey, Monica. "Making the case for an "aye" in Scotland". Queen's Alumni Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-05. Cyrchwyd 4 April 2015.
  7. Carrell, Severin (11 Mai 2011). "MSPs sworn in at Holyrood after SNP landslide". London: guardian.co.uk. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011.
  8. "Vote 2012: Scotland - Councils". BBC News.
  9. Scottish National Party Manifesto "Re-elect a Scottish Government working for Scotland" Check |url= value (help). Scottish National Party. Cyrchwyd 17 October 2014.
  10. "Cut to APD vital for Scotland's future success". Plaid Genedlaethol yr Alban. Archifwyd o'r Scottish National Party gwreiddiol Check |url= value (help) ar 2014-12-09. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2014.