Kate Williams Evans

Swffragét Cymreig o Lansanffraid-ym-Mechain

Swffragét Cymreig oedd Kate Williams Evans (1 Hydref 18662 Chwefror 1961) sef yr unig ferch o Gymru i dderbyn Medal Ympryd (neu "streic newyn") Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU). Golyga hyn iddi gael bwyd, ar ffurf hylif, wedi'i wthio i lawr ei chorn gwddw drwy dwmffat a pheipen - dull hynod o boenus a ddefnyddid am gyfnod yr adeg honno. Cyd-garcharor, a chyfaill oes iddi oedd y swffragét Dorothy Evans.

Kate Williams Evans
Ganwyd1 Hydref 1866 Edit this on Wikidata
Llansanffraid-ym-Mechain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1961 Edit this on Wikidata
Man preswylLlansanffraid-ym-Mechain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethswffragét, gwraig tŷ Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Llansanffraid-ym-Mechain, Trefaldwyn, Powys yn 1866 a threuliodd ddiwedd ei hoes yn y ffermdy lle'i ganed ("Bod Gwylim"), gyda'i chwaer Margaret.[1][2][3]

William Dorsett Evans, ffermwr llwyddiannus oedd ei thad, ond ni wyddom enw'i mam. Prynnodd ei thad Bod Gwylim yn y 1870au ac roedd ganddi dair chwaer ac un brawd. Dim ond am gyfnod byr y bu'n weithgar gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, mae'n debyg.

Daeth i amlygrwydd yng Ngorffennaf 2018 pan werthwyd rhai o'r phethau personol mewn arwerthiant am £48,640, gan gynnwys lluniau ohoni a'i Medal Ympryd.[4] Y prynnwr llwyddiannus oedd Amgueddfa Cymru.

Treuliodd ei hugeiniau ym Mharis, ac yno y clywodd am frwydr y merched yn Lloegr dros etholfraint, sef am yr hawl i fenywod bleidleisio. Clywodd am aelodau o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (yr WSPU) a'u hymgyrchoedd lled-filwriaethus. Ceir cofnod nad oedd ei rhieni'n cytuno gyda hi yn hyn o beth, sy'n esbonio, efallai, pam mai am gyfnod byr iawn y bu'n gweithredu.

Yr ymgyrchydd golygu

Yn 1909 rhoddodd ei chwaer Marged ("Meg") anrheg iddi: llyfr yn llawn llofnodion swffragetiaid ac ymgyrchwyr eraill a gydymdeimlai â hi, pobl fel Emily Wilding-Davison ac un o'r chwiorydd Pankhurst.

Yn 1911 roedd yn byw, neu aros, mewn tŷ yn Maida Hill West yn Paddington, Llundain a cheir cofnod yn yr un flwyddyn iddi gyfrannu'n ariannol i goffrau'r WSPU.

Arestio golygu

Ar 4 Mawrth 1912 cafodd ei harestio yn Llundain am "ddifrod maleisus", sef torri ffenest un o swyddfeydd y Llywodraeth, ynghŷd â nifer eraill o ferched. Fe'i dedfrydwyd i ddau fis o waith caled yng Ngharchar Holloway, er mai hwn oedd ei throsedd gyntaf. Pan ddaeth o'r carchar, wedi 54 diwrnod, cafodd aros yn nhŷ cyd-garcharor iddi, sef Sarah Benett, a cheir llythyr gan Sarah at ei morwyn yn dweud wrth edrych ar ôl Kate "fel petaech yn edrych ar ôl person claf iawn".[5]

Yn Holloway ysgrifennodd nifer o gerddi, a gyhoeddwyd mewn blodeugerdd gyda'r teitl The Holloway Jingles.

Yn 1913 anerchodd gyfarfod yn Llansanffraid-ym-Mechain mewn cyfarfod o'r Women’s Freedom League (WFL), lle eglurodd y gwahaniaeth rhwng y Gynghrair a'r WSPU. Un eglurhad posibl am hyn yw iddi bellhau oddi wrth y WSPU, efallai gan eu bod yn rhy filwriaethus iddi, a chlosio at y Gynghrair y Menywod Rhydd. Ychydig wedyn, mae papur y WLF, sef The Vote yn ei disgrifio fel a brilliant and very charming hostess, who will go to great lengths for the cause.[6]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [7]

Anrhydeddau golygu

  • Medal Ympryd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU)

Cyfeiriadau golygu