Katharine Hepburn
Actores ffilm a llwyfan enwog oedd Katharine Houghton Hepburn (12 Mai 1907 – 29 Mehefin 2003).
Katharine Hepburn | |
---|---|
Ganwyd | Katharine Houghton Hepburn 12 Mai 1907 Hartford |
Bu farw | 29 Mehefin 2003 o ataliad y galon Old Saybrook |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, hunangofiannydd, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Taldra | 170 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Thomas Norval Hepburn |
Mam | Katharine Martha Houghton Hepburn |
Priod | Ludlow Ogden Smith |
Partner | Spencer Tracy, Howard Hughes |
Perthnasau | Katharine Houghton |
Llinach | Houghton family |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Emmy, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, David di Donatello, Cwpan Volpi am yr Actores Orau, Gwobr Gwyl ffilm Cannes am yr Actores Orau, CFDA Lifetime Achievement Award, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal, Hasty Pudding Woman of the Year |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Enillodd Hepburn y nifer fwyaf o Oscars am yr Actores Orau, pedwar i gyd, ond cafodd ei henwebu ar ddeuddeg achlysur gwahanol. Enillodd Wobr Emmy ym 1976 am ei rôl yn Love Among the Ruins, a chafodd ei henwebu am bedwar Emmy arall, dwy Wobr Tony ac wyth Golden Globes. Ym 1999, rhoddodd y Gymdeithas Ffilm Americanaidd Hepburn ar frig y siart o'r ser benywaidd mwyaf yn hanes sinema yn yr Unol Daleithiau.
Credir ei bod yn gyngariad i'r biliwnydd Howard Hughes.
Gweithio yng Nghymru
golyguAr ddiwedd y 1970au daeth Hepburn i Gymru er mwyn ffilmio addasiad teledu o The Corn is Green, gan chwarae rhan yr athrawes Lilly Moffat. Defnyddiwyd tŷ fferm Hafod Ifan, Ysbyty Ifan fel cartref yr athrawes yn y ffilm. Tra'n ffilmio ei golygfeydd yma, gofynnodd Hepburn i Mari Hughes, gwraig y fferm, i ddefnyddio stafell sbar yn y tŷ fel lle newid ac i orffwys. Cadwodd Hepburn mewn cysylltiad gyda theulu y Hughesiaid am weddill ei hoes.[1]
Wedi'r profiad o ffilmio, dywedodd mewn cyfweliad gyda'r wasg "God first made England, Ireland and Scotland. Then, when he corrected his mistakes, he made Wales."[2][3]
Ffilmiau enwog
golygu- Stage Door (1937)
- Bringing Up Baby (1938)
- The Philadelphia Story (1940)
- Woman of the Year (1942)
- Stage Door Canteen (1943)
- Adam's Rib (1949)
- The African Queen (1951)
- Pat and Mike (1952)
- Suddenly, Last Summer (1959)
- Guess Who's Coming to Dinner (1967)
- Rooster Cogburn (1975)
- On Golden Pond (1981)
- Katharine Hepburn: All About Me (1993)
- ↑ Jones, Mari (2016-02-27). "The day Conwy Valley captured Hollywood legend Katherine Hepburn's heart". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-22.
- ↑ Jones, Hannah (2008-02-23). "It's a funny business being Welsh". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-22.
- ↑ "The Indianapolis Star from Indianapolis, Indiana". Newspapers.com (yn Saesneg). 1982-03-14. Cyrchwyd 2023-12-22.