Katherine Ryan

actores a aned yn 1983

Mae Katherine Ryan (ganed 30 Mehefin 1983) yn gomedïwraig, ysgrifenwraig, cyflwynwraig ac actores Ganadaidd-Wyddelig. Mae'n byw yn Llundain.

Katherine Ryan
Ganwyd30 Mehefin 1983 Edit this on Wikidata
Sarnia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ryerson Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBring The Noise Edit this on Wikidata
TadFinbarr Ryan Edit this on Wikidata
MamJulia McCarthy Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.theregister.com/2020/12/11/katherine_ryan_domain/ Edit this on Wikidata

Mae Ryan yn ferch i dad Gwyddelig a mam Ganadaidd o dras Wyddelig. Mae ei thad yn ddrafftsmon sy'n berchen ar gwmni peirianneg. Ganwyd a magwyd Ryan a'i dwy chwaer iau yn Sarnia, Ontario.[1] Treuliodd hafau ei phlentyndod yng Nghorc yn ymweld â'i mam-gu a thad-cu ar ochr ei thad. Astudiodd cynllunio trefol mewn prifysgol yn Toronto.[2] Tra'n astudio, gweithiodd yn Hooters yn ogystal â chymryd rhan mewn nosweithiau meic agored yn ei hamser sbâr.

Daeth Ryan i Lundain am fis gyda'i chariad yn yr haf yn 2007, cyn penderfynu symud yno'n barhaol yn Ionawr 2008. Mae erbyn hyn yn byw yn ardal Crouch End[3] y ddinas gyda'i merch o gyn-gariad, Violet. Mae Ryan wedi dioddef gyda chanser y croen ddwywaith yn y gorffennol.[4][5]

Ymddangosodd Ryan ar deledu am y tro cyntaf yn 2012 ar raglen Channel 4 8 Out of 10 Cats. Mae wedi mynd ymlaen i ymddangos ar raglenni panel eraill, gan gynnwys Mock the Week, Never Mind the Buzzcocks, A League of Their Own, QI a Have I Got News for You.

Fel actores, mae wedi ymddangos yn y comedi sefyllfa Channel 4 Campus[6][7], y comedi sefyllfa BBC Two Episodes[8] a Don't Sit in the Front Row gyda Jack Dee.[8] Fel comedïwraig ar ei sefyll, mae Ryan wedi ymddangos fel act ar Live at the Appollo ar y BBC.

Yn 2015, cymerodd le Steve Jones fel cyflwynydd y rhaglen Hair ar BBC Two. Hefyd yn 2015, daeth Ryan yn banelydd ar y rhaglenni Bring the Noise ar Sky 1, ar dîm Tinie Tempah, a Safeword ar ITV2.

Mae gan Ryan golofn wythnosol yn y cylchgrawn adloniant NME.

Enillodd y Wobr Ferched Doniol Nivea yn 2008.[9]

Ffilmyddiaeth

golygu
  • Episodes (2012) - cynorthwy-ydd Merc
  • Mock the Week (2012–15) – panelydd gwadd
  • Never Mind the Buzzcocks (2012–14) – panelydd gwadd
  • 8 Out of 10 Cats (2012–14) – panelydd gwadd
  • Sweat the Small Stuff (2013–14) – panelydd gwadd
  • Let's Dance for Comic Relief (2013) – cystadleuydd
  • Fake Reaction (2013) – gwestai
  • QI (2013) – panelydd gwadd
  • Have I Got News for You (2013–16) – panelydd gwadd a chyflwynwraig
  • Celebrity Squares (2014, 2015) – gwestaiu
  • Room 101 (2015) – gwestai
  • 8 Out of 10 Cats Does Countdown (2015) – panelydd gwadd
  • Hair (2015) – cyflwynwraig
  • Safeword (2015–presennol) – capten tîm
  • The Cube: Celebrity Special (2015) – cystadleuydd
  • The Last Leg (2015) – gwestai
  • Bring the Noise (2015) – panelydd rheolaidd
  • Lip Sync Battle UK (2016) – cystadleuydd
  • Let's Play Darts for Sport Relief (2016) – cystadleuydd
  • Counterfeit Cat (2016) – Ranceford (llais)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "New Interview: Katherine Ryan". Beyond The Joke. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-19. Cyrchwyd 2016-06-30.
  2. Denise Evans (8 Chwefror 2013). "Comic Katherine Ryan tom play The Lowry after appearances on Mock The Week and Never mind The Buzzcocks". Manchester Evening News. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2013.
  3. Moore-Bridger, Benedict; Groskop, Viv (7 August 2014). "TV comedian Katherine Ryan gives her cheating boyfriend a star role in new show". London Evening Standard. Alexander Lebedev, Evgeny Lebedev and Daily Mail and General Trust. Cyrchwyd 8 June 2015.
  4. Harding, Oscar. "Exclusive interview with Katherine Ryan". What Culture. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
  5. "Comic Katherine Ryan looks on the bright side". Reading Chronicle. Berkshire Media Group. 23 Chwefror 2013. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
  6. Mellor, Louisa (12 April 2011). "Campus episode 2 review: The Culling Fields". Den of Geek. Cyrchwyd 10 December 2012.
  7. "Channel 4 goes off Campus : News 2011". Chortle. 29 Mehefin 2011. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  8. 8.0 8.1 "Slipping makes her smile – Arts and Comedy". The News. 1 Chwefror 2013. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.[dolen farw]
  9. "Female comic is tickled pink". thesun.co.uk.