Keeshond
Ci cymar a gwarchotgi a chi cenedlaethol yr Iseldiroedd yw'r Keeshond. Yn hanesyddol fe'i gedwir gan y dosbarth gweithiol ac yr oedd yn symbol Plaid Gwladgarwyr yr Iseldiroedd yn y 18g. Daw'r enw o gi, Kees, a gedwir gan Kees de Gyselaer, arweinydd y blaid honno. Hyd heddiw fe'i gedwir ar gychod camlas Iseldiraidd.[1]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Gwlad | Yr Iseldiroedd, yr Almaen |
Enw brodorol | Keeshond |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgynnydd o'r un gŵn â'r Samoied, y Ci Ceirw Norwyaidd, sbitsau a'r Ci Pomeranaidd yw'r Keeshond. Mae ganddo wyneb sy'n debyg i lwynog, cynffon bluog sy'n codi'n uchel uwch ei gefn, a marciau o amgylch ei lygaid. Mae ganddo gôt hir a thrwchus o flew llwyd gydag isflew gwelwlwyd o dan flew â blaenau duon. Mae ganddo daldra o 43 i 46 cm (17 i 18 modfedd) ac yn pwyso 25 i 30 kg (55 i 66 o bwysau).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) keeshond. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.