Keith Towler
Gweithwr cymdeithasol hyfforddedig a chyn Gomisiynydd Plant Cymru yw Keith Towler (ganed Ionawr 1959)[1].
Keith Towler | |
---|---|
Ganwyd | 1959 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweithiwr cymdeithasol |
Ganwyd yn Llundain yn fab i Betty a Peter, a daeth i Gymru yn blentyn pan symudodd y teulu i ardal Treganna. Aeth i ysgol gynradd yn Treganna cyn i'r teulu symud i ardal Cyncoed. Mynychodd Ysgol Uwchradd Llanedeyrn cyn gwneud gradd mewn celfyddyd gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Exeter.[1] Yna ymunodd ag adran gwasnaethau cymdeithasol Cyngor Sir De Morgannwg, a hyfforddod fel cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol, gan weithio mewn cyfiawnder ieuenctid.[2]
Daeth yn bennaeth NACRO Cymru yn 1998, ac yn 2001 fe'i benodwyd yn Gyfarwyddwr Lleihau Trosedd gyda NACRO.[3] Yn 2006 daeth yn gyfarwyddwr rhaglen i Achub Y Plant Cymru, ac yn gadeirydd Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cymru.[2]
Penodwyd Towler yn Gomisiynydd Plant Cymru ym Mawrth 2008, ar ôl marwolaeth Peter Clarke.[2] Fe'i ddilynwyd gan Dr. Sally Holland yn 2015.[4]
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Llandeilo gyda'i wraig Angela a mae ganddo fab a merch.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Fighting for their rights (en) , walesonline.co.uk, 2 Chwefror 2008. Cyrchwyd ar 6 Gorffennaf 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Keith Towler Biography". Welsh Assembly Government. Cyrchwyd 14 November 2012.
- ↑ "Keith Towler Biography". IPA. Cyrchwyd 14 November 2012.
- ↑ "Sally Holland is new children's commissioner for Wales". BBC News. Cyrchwyd 2015-11-12.