Ken Jones (rygbi'r undeb, ganwyd 1941)
Roedd David Kenneth Jones yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol a diwydiannwr o Gymro (7 Awst 1941 – 24 Awst 2022). Fe'i adnabyddwyd yn fwy arferol fel ‘DK’ Jones.
Ken Jones | |
---|---|
Ganwyd | David Kenneth Jones 7 Awst 1941 Cross Hands |
Bu farw | 24 Awst 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen, Clwb Rygbi Llanelli, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Canolwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Jones yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin ar 7 Awst 1941.[1] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth; Coleg y Brifysgol, Caerdydd, lle cafodd radd BSc yn 1963; a Choleg Merton, Rhydychen (1963-4). Tra yn Rhydychen chwaraeodd i Glwb Rygbi Prifysgol Rhydychen.[2]
Gyrfa rygbi
golyguCafodd ei gapio bedair gwaith ar ddeg gan Gymru fel canolwr rhwng 1962 a 1966. Sgoriodd bum cais i Gymru. Cafodd ei ddewis ar gyfer taith dramor gyntaf Cymru ym 1964 a chwaraeodd yng ngêm gyntaf tîm rygbi Cymru y tu allan i Ewrop (a'i gêm gyntaf yn Hemisffer y De) yn erbyn Dwyrain Affrica yn Nairobi ar 12 Mai 1964, gan ennill 8-26.
Dim ond 21 oedd Jones pan gafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod Prydeinig ym 1962 i Dde Affrica a chwaraeodd yn y tri gêm ryngwladol gyntaf, gan sgorio un cais. Arhosodd yn Ne Affrica ar ôl taith 1962 lle chwaraeodd i Paarl. Cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer taith y Llewod Prydeinig yn 1966 i Awstralia a Seland Newydd, a chwaraeodd yn y ddau gêm ryngwladol yn erbyn Awstralia a'r gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn y Crysau Duon, gan sgorio dau gais yn y gêm olaf. Bu hefyd ar daith i Dde Affrica gyda Chymru ym 1964.
Fel myfyriwr cynigiwyd cytundeb proffesiynol iddo gan gynghrair rygbi Leeds ac eto gan St George yn Awstralia yn ystod taith y Llewod yn 1966 ond penderfynodd aros yn rygbi'r undeb ar y ddau achlysur. Byddai cynnig Leeds o £12,000 wedi bod yn ffi record byd ar y pryd. Ymddeolodd Jones o rygbi yn 27 ar ôl chwarae rygbi clwb i Lanelli a Chaerdydd gan aros 5 mlynedd ym mhob clwb.
Ar ôl ymddeol o rygbi yn 27 oed, bu Jones yn gweithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru fel rhan o dîm a oedd yn gyfrifol am ddenu mewnfuddsoddiad gan gorfforaethau Japaneaidd i Gymru. Helpodd Jones i ddod â Takiron (is-gwmni plastigau Itochu, un o gwmnïau masnachu mwyaf Japan) i Gymru lle ymunodd fel Rheolwr Gyfarwyddwr cyn dod yn Gadeirydd arni wedyn. Roedd Jones ar fwrdd llywodraethwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru, yn ogystal â bod yn Gadeirydd llywodraethwyr Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac aelod o gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Bywyd personol a marwolaeth
golyguRoedd gan Jones ddau o blant, Mark a Sara. Bu farw ar 24 Awst 2022, yn 81 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: J. M. Dent & Sons Ltd. tt. 12:30. ISBN 0-460-07003-7.
- ↑ Levens, R.G.C., gol. (1964). Merton College Register 1900-1964. Oxford: Basil Blackwell. t. 549.
- ↑ "Obituary: Centre marvel 'DK' Jones dies aged 81" (yn Saesneg). 25 Awst 2022. Cyrchwyd 25 Awst 2022.