Notting Hill
Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.[1]
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1.59 km² |
Yn ffinio gyda | North Kensington, Kensington |
Cyfesurynnau | 51.5096°N 0.2043°W |
Cod OS | TQ245805 |
Cod post | W11, W10 |
Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol,[2] sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set[3] i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno. Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19g, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road.[4][5] Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".
Carnifal Notting Hill
golyguCynhelir y Carnifal yn Awst, dros gyfnod o ddeuddydd: ar y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [6] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop. Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yn 1976,[7] wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Portobello Road". London Online. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ "West London". London Hotels .com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ Watt, Nicholas (28 Gorffennaf 2004). "Tory Bright Young Things". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/politics/2004/jul/28/conservatives.uk1. Adalwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-12-01. Cyrchwyd 2004-12-01.
- ↑ Notting Hill: Olion Llundain.
- ↑ 1Xtra – Black History. "1965". BBC. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ Griffiths, Emma (25 Awst 2006). "Remembering the Notting Hill riot". BBC NEWS. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ "Notting Hill Carnival ends in riot". BBC News. 30 Awst 1976. Cyrchwyd 7 Mehefin 2009.
Gweler hefyd
golygu- Notting Hill (ffilm): sy'n serennu Rhys Ifans