Kimberley Nixon
actores a aned yn 1985
Actores o Gymru yw Kimberley Nixon (ganwyd 24 Medi 1985). Mae hi'n adnabyddus am ei rôlau teledu a ffilm. Mae hi wedi serennu fel Josie Jones yn y ddrama gomedi Channel 4 Fresh Meat ac fel Sarah Pearson yn y comedi BBC Hebburn.
Kimberley Nixon | |
---|---|
Ganwyd | 24 Medi 1985 Bryste |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Cafodd Nixon ei geni ym Mryste i rieni Cymraeg. Cafodd ei magu ym Mhontypridd, gyda'i chwe brawd. Mynychodd Ysgol Gyfun Coedylan, a adnabyddir bellach fel Ysgol Uwchradd Pontypridd.[1][2][3]
Hyfforddodd Nixon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd lle roedd hi'n ffrind Tom Cullen ac Aneurin Barnard. Arwyddodd i Universal Studios ar ôl ymddangos mewn cynhyrchiad coleg o The Comedy of Errors.[4][5] Mae hi'n gyn aelod o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Chit Chatting with Kimberley Nixon". relate.com magazine (yn Saesneg). Relate. 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
- ↑ "Welsh actress Kimberley Nixon lands a second series of cult sitcom Fresh Meat". North Wales Daily Post (yn Saesneg). 2 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
- ↑ "Kimberley joins who's who of Who hopefuls". Western Mail (yn Saesneg). 15 Ionawr 2009. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
- ↑ "Kimberely's all set for stardom!". Western Mail.
- ↑ 5.0 5.1 "Graduation and Honorary Fellows 2007" (yn Saesneg). Royal Welsh College of Music and Drama. 6 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2008. Cyrchwyd 9 Mehefin 2007.