Awdures o Sweden yw Gunhild Bricken Kristina Lugn (ganwyd 14 Tachwedd 1948; m. 9 Mai 2020) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd a bardd. Mae'n aelod o Academi Sweden (Swedeg: Svenska Akademien) a sefydlwyd yn 1786.

Kristina Lugn
GanwydGunhild Bricken Kristina Lugn Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1948 Edit this on Wikidata
Skövde Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 2020 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethllenor, dramodydd, bardd, beirniad llenyddol, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Swyddseat 14 of the Swedish Academy Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, dramayddiaeth Edit this on Wikidata
TadRobert Lugn Edit this on Wikidata
PriodBengt Herulf Edit this on Wikidata
PlantMartina Montelius Edit this on Wikidata
PerthnasauPehr J. Lugn, Gunhild Lugn Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Dobloug, Medal Diwylliant ac Addysg, Prif Gwobr Samfundet De Ni, Piratenpriset, Gwobr Signe Ekblad-Eldh, Gwobr Siripriset, Gwobr Samfundet De Nios Särskilda, Moa-prisen, Karamelodiktstipendiet, Sveriges Radio's Poetry Prize, Q10511054, Q10404314, Tidningen Vi:s litteraturpris, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Björn Nilsson-pris för god kulturjournalistik, Q10543717, Gwobr Selma Lagerlöf, Nils Ferlin Prize, Tage Danielsson Award, Gwobr Bellman, Sigtunastiftelsen author scholarship, Q10594932, Gwobr Övralid, Prif Gwobr Samfundet De Ni Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Tierp, Sir Uppsala, ar arfordir gorllewinol Sweden, a'i magu yn Skövde yng nghanol de Sweden ar 14 Tachwedd 1948. Mae Martina Montelius yn blentyn iddi.[1][2]

Gwaith

golygu

Ar ôl gorffen ei haddysg academaidd, neilltuodd ei hamser i farddoniaeth, beirniadaeth lenyddol a'r byd drama. Ers 1972 mae hi wedi cyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth. Llwyfanwyd ei dramâu yn Dramaten (Theatr Ddramatig Frenhinol Sweden), Theatr Dinas Stockholm, ac yn Teater Brunnsgatan Fyra, hefyd yn Stockholm. Mae'n boblogaidd iawn yn Sweden, ac yn cyffwrdd â phynciau fel unigrwydd, marwolaeth a chanol oed, a hynny gydag eironi, sinigiaeth a hiwmor du. Mae rhywfaint o'i barddoniaeth wedi'i chyfieithu i'r Serbeg gan Eleonora Luthander.[3][4][5][6][7][8]

Rhwng 1997 a 2011, hi oedd cyfarwyddwr y Teater Brunnsgatan Fyra, sy'n theatr fechan, preifat yn Stockholm, ac a sefydlwyd gan yr actor Allan Edwall. Wedi 2011 cymerodd ei mherch Martina Montelius gyfarwyddiaeth y theatr.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Om jag inte (Os NAd Fi) 1972
  • Till min man, om han kunde läsa (I Fy Mhriod, Pe Bai Ond yn Medru Darllen) 1976
  • Döda honom! (Lladda fo!) 1978
  • Om ni hör ett skott (Pe Clywch Swn y Gwn) 1979
  • Percy Wennerfors 1982
  • Bekantskap önskas med äldre bildad herre (Chwilio Am Hen Ddyn Deallus) 1983
  • Lugn bara Lugn (Tawel, Tawel) 1984
  • Hundstunden (Awr y Ci) 1989
  • Samlat lugn (Casgliad o Dawelwch) 1997
  • Nattorienterarna (Cyfeiriadu'r Nos) 1999
  • Hej då, ha det så bra (Hwyl Fawr, a Mwynhewch!) 2003

Dramâu

golygu
  • När det utbröt panik i det kollektiva omedvetna 1986
  • Titta det blöder 1987
  • Det vackra blir liksom över 1989
  • Tant Blomma 1993
  • Idlaflickorna 1993
  • Silver Star 1995
  • De tröstlösa 1997
  • Titta en älg 1999
  • Stulna juveler 2000
  • Eskil Johnassons flyttfirma 2000
  • Begåvningsreserven 2002
  • Kvinnorna vid Svansjön 2003
  • Två solstrålar på nya äventyr 2003
  • Var är Holger, Harald och Herrman? 2004
  • Vera 2005
  • Det finns ett liv därborta i Vällingby 2005
  • Gråt inte mer, Cecilia. Och inte du heller, Ursula 2005
  • Katarina den stora 2006
  • Hjälp sökes 2013
  • Hej, det är jag igen 2014

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Selma Lagerlöf (1999), Gwobr Dobloug (1999), Medal Diwylliant ac Addysg (2003), Prif Gwobr Samfundet De Ni (2011), Piratenpriset (1997), Gwobr Signe Ekblad-Eldh (1992), Gwobr Siripriset (2003), Gwobr Samfundet De Nios Särskilda (1983), Moa-prisen (1997), Karamelodiktstipendiet (2014), Sveriges Radio's Poetry Prize (1991), Q10511054 (2007), Q10404314 (1978), Tidningen Vi:s litteraturpris (1983), Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet (1989), Expressens Björn Nilsson-pris för god kulturjournalistik (1995), Q10543717 (1997), Gwobr Selma Lagerlöf (1999), Nils Ferlin Prize (2000), Tage Danielsson Award (2000), Gwobr Bellman (2002), Sigtunastiftelsen author scholarship (2004), Q10594932 (2006), Gwobr Övralid (2009), Prif Gwobr Samfundet De Ni (2011) .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Lundborg, Beatrice (6 April 2014). "Kristina Lugn – det sista geniet". Dagens Nyheter. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  2. Ekman, Michel (25 Tachwedd 2010). "Kristina Lugn mellan dikt och verklighet". Svenska Dagbladet. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  3. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Disgrifiwyd yn: "Gunhild Bricken Kristina Lugn 1948-11-14 - 2020-05-09 Poet, dramatiker". dyddiad cyrchiad: 29 Awst 2021.
  5. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  6. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Kristina Lugn". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Dyddiad marw: "Författaren Kristina Lugn är död". 9 Mai 2020. Cyrchwyd 9 Mai 2020. https://www.tellerreport.com/news/2020-05-09-author-kristina-lugn-is-dead.HJFhfS4cI.html. dyddiad cyrchiad: 9 Mai 2020.
  8. Man claddu: "Lugn, Gunhild Bricken Kristina" (yn Swedeg). Cyrchwyd 25 Tachwedd 2023.