Kynniver Llith a Ban

Llyfr gan y dyneiddiwr Cymreig William Salesbury yw Kynniver Llith a Ban (cyhoeddwyd yn 1551), sy'n cynnwys cyfieithiad Cymraeg y darlleniadau o'r Efengylau a'r Epistolau sydd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg a ddefnyddid gan Eglwys Loegr. Dyma'r tro cyntaf, hyd y gwyddys, i rannau sylweddol o'r Testament Newydd gael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn uniongyrchol o'r testunau Groeg gwreiddiol.[1] Mae'n rhagredegydd i'r cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd gan Salesbury a chyfieithiad William Morgan o'r Beibl yn 1588.[2]

Disgrifiad golygu

Teitl llawn y llyfr yw Kynniver llith a ban or yscrythur lan ac a ddarlleïr yr Eccleis pryd Commun y Sulieu a'r Gwylieu trwy'r vlwyddyn: o Cambericiat W.S..[2]

Mae'n cynnwys anerchiad Lladin i esgobion Cymru a Henffordd, yn cynnwys Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ac Arthur Bulkeley, Esgob Bangor.[3]

Llyfryddiaeth golygu

  • William Salebury, Kynniver llith a ban or yscrythur lan... Argraffwyd gan Robert Crowley, Llundain, 1551.[3]
  • Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980). Ceir cyfieithiad o anerchiad Lladin Salesbury.

Cyfeiriadau golygu

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. 2.0 2.1 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  3. 3.0 3.1 Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980).