Robert Ferrar
Esgob Tyddewi rhwng 1548 a'i losgi wrth y stanc ym 1555 oedd Robert Ferrar (tua 1504 – 30 Mawrth 1555). Ganed yn Halifax, Swydd Efrog, rywbryd rhwng 1502 a 1505.
Robert Ferrar | |
---|---|
Ganwyd | 1500s |
Bu farw | 30 Mawrth 1555 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Sodor a Manaw |
Dechreuodd ei yrfa eglwysig ystormus fel Esgob Sodor a Manaw. Yn bleidiwr brwd y Diwygiad Protestannaidd, fe'i penodwyd yn Esgob Tyddewi o dan Edward VI o Loegr ar 9 Medi 1548 diolch i ddylanwad ei noddwyr Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, a Dug Somerset. Fe'i carcharwyd yn ddiweddarach gan Edward VI ar ôl ymrafael rhyngddo a chanoniaid Tyddewi.
Cafodd ei gyhuddo o ddangos gormod o gariad tuag y Cymry, ac yn benodol o danseilio'r Deddfau Uno a waharddai ddefnyddio'r iaith Gymraeg gan unrhyw swyddog o dan Goron Lloegr. Yn ôl ei gyhuddwyr, roedd Ferrar wedi datgan,
- "The Welsh are more gentle (na'r Saeson) and not without cause, for ye were the Britons sometime and had the realm in governance, and, if the prophesy be true, ye shall be Britons again and this land shall be called Great Britain.[1]
Ac yntau'n dal yn y carchar, fe'i cyhuddwyd o heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555. Fe'i olynwyd fel Esgob Tyddewi gan Henry Morgan, gŵr o Sir Benfro, un o'r rhai a gondemniodd Ferrar yn y lle cyntaf.
Ceir carreg goffa i Robert Ferrar, a godwyd yn 1843, ar sgwâr Caerfyrddin. Cynhwysodd y bardd Saesneg Ted Hughes gerdd amdano yn ei gyfrol The Hawk in the Rain.
Cerdd Ted Hughes
golyguYsgrifennodd Ted Hughes gerdd am ei ferthyru, sef The Martyrdom of Bishop Farrar,[2] sy'n gorffen gyda'r llinellau:
- Gave all he had, and yet the bargain struck
- To a merest farthing his whole agony,
- His body’s cold-kept miserdom on shrieks
- He gave uncounted, while out of his eyes,
- Out of his mouth, fire like a glory broke,
- And smoke burned his sermon into the skies.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dyfynnwyd gan Aneirin Talfan Davies yn Crwydro Sir Gâr (Llandybie, 1955; arg newydd 1970), tt.125-6
- ↑ poetscorner.blog; adalwyd 13 Mawrth 2020.