Arthur Bulkeley
Clerigwr Cymreig a fu'n Esgob Bangor o 1541 hyd ei farwolaeth oedd Arthur Bulkeley (c. 1445 - 1553). Gan mai Saeson a apwyntiwyd yr adeg honno yn esgobion, mae'n nodedig gan mai ef oedd y Cymro cyntaf i'w ethol yn esgob am gan mlynedd. Ef hefyd oedd yr esgob cyntaf i ofyn i'w glerigwyr a'i addysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.
Arthur Bulkeley | |
---|---|
Ganwyd | 1445 Biwmares |
Bu farw | 1553 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Roedd Arthur Bulkeley yn aelod o deulu pwerus Bulkeley, Baron Hill, ger Biwmares, Ynys Môn, ac yn frawd i Syr Richard Bulkeley (m. 1546 neu 1547). Addysgwyd ef yn Rhydychen a bu'n gyfreithiwr yn yr eglwys am gyfnod gan wasanaethu fel caplan dug Suffolk ac fel aelod o gylch Thomas Cromwell yn y 1530au cynnar.[1] Etholwyd ef yn Esgob Bangor ar 18 Tachwedd 1541, a chysegrwyd ef gan Archesgob Caergaint ar 20 Rhagfyr yr un flwyddyn.
Mae chwedl iddo werthu clychau'r Eglwys Gadeiriol a chael ei daro'n ddall fel cosb ddwyfol am wneud hynny.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru 2008.