Yn y gyfres manga ac anime Naruto, y nawfed bwystfil cynffonnog yw y Kyuubi (九尾 - Japaneg). Mae'r bwystfil yma wedi'i seilio o fewn Naruto Uzumaki, yn dilyn y ddigwyddiad deuddeg blwyddyn cyn lle y mae'r cyfres yn dechrau.

Clogyn y Kyuubi wrth iddo ddechrau rheoli Naruto

Cefndir golygu

Yn wreiddiol, pan oedd Doethwr y Chwe Llwybr dal i fyw, roedd y naw bwystfil cynffonnog wedi'u cyfuno i wneud bwystfil gyda deg cynffon o'r enw Izanagi. Er mwyn osgoi atgyfodiant Izanagi, fe wnaeth y doethwr rhannu'r bwystfil mewn i naw bwystfil llai; y cyntaf gydag un cynffon, a'r nawfed yn gorffen gyda naw gynffon. Dros y canrifoedd cafodd y Kyuubi enw drwg fel un o'r trychinebau naturiol gwaethaf, gan ymddangos yn sydyn i ymosod ar lefydd lle roedd malais dynol wedi cynyddu. Degawdau yn nôl, defnyddiodd Madara Uchiha ei Sharingan ar y Kyuubi er mwyn ei reoli a'i ddefnyddio i ymladd yn erbyn Hashirama Senju am ddial. Brwydr mawr oedd hon ac o ganlyniad, gwahanodd y ddaear. Crëodd hyn le o'r enw Valley of the End. Ar ôl y frwydr hon fe wnaeth gwraig Hashirama, Mito Uchiha, selio'r Kyuubi tu fewn i'w hunan er mwyn ceisio osgoi'r digwyddiad yn y dyfodol. Wrth i Mito oedi rhoddodd y cyfrifoldeb yma i Kushina Uzumaki, mam Naruto; er hynny, fe wnaeth y sêl gwannu wrth i Kushina feichiogi gyda Naruto. Er y cafodd Kushina y beichiogrwydd yn gyfrinachol, ffeindiodd Madara ei lleoliad a thorri'r sêl, yna yn cael gafael ar y Kyuubi eto. Gorchmynodd Madara i'r Kyuubi i ddinistrio Konoha ond fe wnaeth Minato Uzumaki, tad Naruto, llwyddo selio hanner Chakra y Kyuubi tu fewn i'w fab ar ôl galw ar Gamabunta i'w delegludo, ac yna'r hanner arall tu fewn i'w hun.

 
Clogyn y Kyuubi wrth iddo ddechrau rheoli Naruto

Edrychiad golygu

Cadno oren ei flew gyda llygaid coch yw'r Kyuubi, gyda nodweddion dynol ar adran uchaf ei gorff. Fel yr awgryma ei enw, mae ganddo naw cynffon; er hynny, ar ôl i'r sêl rhwng y Kyuubi a Naruto wanhau, mae cynffonnau y Kyuubi yn dod allan un ar y tro. I ddechrau, mae llygaid Naruto yn troi'n goch fel llygaid y Kyuubi. Mae Chakra lliw coch yn dechrau gollwng o Naruto ac yn creu clogyn o'r gwmpas; gelwir hon the Demon Fox's Cloak. Yna, mae un cynffon ar y tro yn cael ei greu. Mae chwimdra mae'r cynffonnau yn cael eu creu yn dibynnu ar gracrwydd Naruto. Ar adegau, rydym yn gweld y Kyuubi o fewn isymwybod Naruto. Rhyw fath o garchar yw hon gyda'r llawr wedi'i orchuddio â dŵr. Ar gât y carchar, mae darn o bapur sydd yn darllen y gair "seal" (封 - Japaneg).

 
Y Kyuubi tu fewn isymwybod Naruto

Personoliaeth golygu

Bwystfil gas, creulon, galluog a dichellgar yw'r Kyuubi. Mi fydd y Kyuubi yn cymryd pob cyfle i gymryd rheolaeth dros Naruto trwy ecsbloetio'i wendidau, gan gynnig rhoi pwer iddo os yw Naruto yn gadael iddo cymryd rheolaeth. Mae'r Kyuubi hefyd yn ceisio temptio Naruto i dorri'r sêl.

Medrau golygu

Mae gan y Kyuubi gyflenwad enfawr Chakra, a gall un trawiad o'i gynffonnau achosi tsiwnami neu fynyddoedd i gwympo. Oherwydd Jinchuuriki y Kyuubi yw Naruto, mae Chakra y Kyuubi hefyd yn achosi i anafiadau Naruto gwella yn gyflymach nag arfer. Mae hefyd gan Naruto gynydd yng nghryfder a chyflymder.